Newyddion S4C

Meddygon iau yng Nghymru yn dechrau streic 72 awr

15/01/2024

Meddygon iau yng Nghymru yn dechrau streic 72 awr

Mae meddygon iau ledled Cymru yn dechrau streic am dridiau ddydd Llun, a hynny dros gyflogau.

Daw hyn wrth i Lywodraeth Cymru ac arweinwyr ysbytai rybuddio am y pwysau sydd ar wasanaethau iechyd.

Mae'r streic yn dechrau am 07:00 fore Llun ac yn para tan 07:00 ddydd Iau ac fe allai dros 3,000 o feddygon streicio.

Dywedodd Conffederasiwn GIG Cymru, sy’n cynrychioli byrddau iechyd yng Nghymru, bod y gweithredu diwydiannol yn digwydd ar un o “wythnosau lle mae'r GIG dan bwysau mwyaf y flwyddyn, yn dilyn yr wythnosau diwethaf o bwysau gaeaf sylweddol”.

Tra bod y gweinidog iechyd Eluned Morgan wedi rhybuddio bod disgwyl i'r effaith ar wasanaethau fod yn sylweddol, dywedodd y byddai gofal brys a gofall lle mae peryg i fywyd yn parhau.

Dywedodd undeb llafur y meddygon, BMA Cymru, fod y bleidlais i streicio wedi ei chynnal fel rhan o ymgyrch adfer cyflog sydd, medden nhw, wedi gostwng bron i draean yn nhermau real ers 2008/9.

Dywedodd yr undeb y byddai meddygon yn bresennol ar linellau piced y tu allan i bob un o brif safleoedd ysbytai Cymru yn ogystal â mynd â'u pryderon at aelodau'r Senedd.

'Diffyg gweithredu'

Fe wnaeth pwyllgor meddygon iau Cymru y penderfyniad i gynnal pleidlais ymhlith aelodau ym mis Awst ar ôl cael cynnig codiad tâl o 5% gan Lywodraeth Cymru.

Dywedodd Dr Oba Babs-Osibodu a Dr Peter Fahey, cyd-gadeiryddion pwyllgor meddygon iau BMA Cymru: “Nid oes unrhyw feddyg eisiau streicio.

“Roedden ni wedi gobeithio bod Llywodraeth Cymru wedi deall cryfder teimladau meddygon iau yng Nghymru yn iawn.

“Yn anffodus, mae eu diffyg gweithredu ar y mater hwn wedi ein harwain ni yma heddiw, wedi ein digalonni, yn rhwystredig ac yn flin.

“Ar ôl blynyddoedd o danbrisio ein gwasanaeth achub bywyd rydym yn teimlo ein bod wedi cael ein gadael heb unrhyw ddewis ond sefyll dros y proffesiwn a dweud 'digon yw digon', ni allwn ac ni fyddwn yn derbyn yr annerbyniol mwyach.

“Bydd meddyg sy’n dechrau ar ei yrfa yng Nghymru yn ennill cyn lleied â £13.65 yr awr ac am hynny gallent fod yn cyflawni gweithdrefnau achub bywyd.

“Dydyn ni ddim yn gofyn am godiad cyflog – rydyn ni’n gofyn i’n cyflog gael ei adfer yn unol â chwyddiant yn ôl i lefelau 2008, pan ddechreuon ni dderbyn toriadau cyflog mewn termau real.

“Nid yw hwn yn benderfyniad sydd wedi’i wneud yn ysgafn. Nid oes unrhyw feddyg am weithredu'n ddiwydiannol, ond ni roddwyd unrhyw ddewis inni."

'Amhosib'

Dywedodd y gweinidog iechyd fod adfer cyflogau meddygon iau yng Nghymru yn amhosib heb gynnydd sylweddol mewn cyllid gan Lywodraeth y DU.

“Rydym yn siomedig bod meddygon iau wedi pleidleisio dros weithredu diwydiannol, ond rydym yn deall cryfder teimladau aelodau'r BMA,” meddai Eluned Morgan.

“Hoffem fynd i’r afael â’u huchelgeisiau adfer cyflog, ond mae’r cynnig codiad cyflog rydym wedi’i wneud ar derfyn y cyllid sydd ar gael i ni ac yn adlewyrchu’r sefyllfa a gyrhaeddwyd gyda’r undebau eraill.

“Rydym yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i drosglwyddo’r cyllid angenrheidiol i ddarparu codiadau cyflog llawn a theg i weithwyr y sector cyhoeddus.

“Mae Llywodraeth y DU wedi methu, dros y 13 mlynedd diwethaf, ag ariannu gwasanaethau cyhoeddus yn iawn.

“Byddai cyllideb Llywodraeth Cymru rhwng 2024 a 2025 £3 biliwn yn uwch pe bai wedi tyfu yn unol â’r economi ers 2010.

“Oherwydd y sioc chwyddiant diweddar, mae ein setliad y flwyddyn nesaf werth hyd at £1.3 biliwn yn llai mewn termau real na’r disgwyl pan gafodd ei osod gyntaf yn 2021.”

Llun gan Jenny Rees.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.