Newyddion S4C

Rhybuddion am rew ac eira ar draws Cymru yn ystod yr wythnos

14/01/2024
Eira

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybuddion melyn am rew ac eira mewn rhannau helaeth o Gymru ddechrau'r wythnos.

Bydd y rhybudd am rew ac eira yn dod i rym mewn nifer o siroedd rhwng 00:00 a 23:59 ddydd Mawrth.

Fe allai rhai ffyrdd gael eu heffeithio gan eira am gyfnodau.

Yn ogystal fe allai rhai gwasanaethau rheilffyrdd a bysiau gael ei gohirio oherwydd y tywydd.

Mae'r rhybudd yn effeithio ar Geredigion, Conwy, Gwynedd, Powys, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam.

Mae'r rhybydd melyn am eira yn parhau tan 23:59 ar 18 Ionawr.

Mae'r rhybudd yn effeithio ar Geredigion, Conwy, Gwynedd, Powys, Sir Benfro, Sir y Fflint, Sir Gaerfyrddin a Wrecsam.

Tymheredd isel

Bydd gwyntoedd o'r Arctig yn dod â thywydd oer iawn mewn mannau yn gynnar yr wythnos nesaf.

Bydd rhai ardaloedd gwledig y DU yn gweld llawer o rew a thymheredd mor isel â -10C.

Bydd gwyntoedd yr Arctig yn ymsefydlu ar draws y DU erbyn dydd Sul, gan ddod â gostyngiad yn y tymheredd a rhew eang dros nos.

Dywedodd y Swyddfa Dywydd fod rhai ffyrdd a rheilffyrdd yn debygol o gael eu heffeithio a bydd amseroedd teithio hirach ar y ffyrdd.

Yn gynharach yr wythnos hon gwelwyd cawodydd o eira ar draws rhannau o dde Lloegr a de Cymru- ac mae'n debyg bydd yr eira yn cwympo yn Yr Alban a Gogledd Iwerddon i ddechrau yr wythnos nesaf, cyn ymledu i'r de.

Mae Dr Agostinho Sousa, Pennaeth Digwyddiadau Eithafol a Diogelu Iechyd yn Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU yn rhybuddio y gall y tywydd oer gael effaith ddifrifol ar iechyd rhai pobl fregus a'r henoed.

“Gall y tymereddau y byddwn yn eu gweld gael effaith ddifrifol yn gyflym ar iechyd y rhai dros 65 oed a’r rhai sydd â chyflyrau iechyd sy’n bodoli eisoes. 

"Mae hyn gan ei fod yn cynyddu'r risg o drawiadau ar y galon, strôc a heintiau ar y frest. Mae’n hanfodol felly sicrhau bod eich ffrindiau, teulu a chymdogion wedi’u paratoi’n dda ar gyfer y tywydd oer yr wythnos nesaf.”

 


 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.