Newyddion S4C

Dymchwel tŵr sy'n rhan o dirlun Caergybi yn hollti barn

14/01/2024
Simnai Caergybi

Mae newid ar y gorwel i dirlun Ynys Cybi ym Môn eleni, wrth i ddatblygwyr baratoi i ddymchwel hen simnai Alwminiwm Môn.

Bydd y strwythur a rhai o adeiladau gwag cyfagos ar y safle yn cael eu dymchwel wrth i berchnogion y tir, Stena Line, ddatblygu’r safle.

Mae’r safle, a elwir nawr yn Prosperity Parc, wedi ei glustnodi ar gyfer un o'r canolfannau tollau a threthi o fewn y cynllun i ddatblygu Porthladd Rhydd Môn.

Fel rhan o’r gwaith, bydd y simnai, sydd wedi bod yn rhan o dirlun yr ardal ers dros hanner canrif, yn cael ei ddymchwel.

Yn ôl Stena, mae cyflwr y simnai bellach yn “wael” ac yn peri “perygl i ddiogelwch”, wrth i arbenigwyr weithio ar gynllun cyn gosod dyddiad i’w ddymchwel.

‘Hanes yr ynys’

Ond mae’r datblygiad wedi hollti barn yn lleol, gyda rhai yn dweud fod y simnai bellach yn ran o hanes a threftadaeth Ynys Cybi.

Dywedodd Aaron Owen, o Fryngwran: “Fe ddylia fo gael ei adael yno, mae o di bod yn rhan o dirlun Ynys Môn ers sawl blwyddyn. 

Image
Mae'r simnai wedi bod yn rhan o dirlun Caergybi ers dros hanner canrif
Mae'r simnai wedi bod yn rhan o dirlun Caergybi ers dros hanner canrif

“Mae’n bechod mawr os fydda nhw’n tynnu o’i lawr, mae o’n olygfa o adra i lot fawr o bobol yr ynys. Y munud odda chi yn ei weld o, odda chi’n gwybod, t’odda chi ddim yn bell o adra.

“Os mae’n ansefydlog neu beth bynnag, mae angen ei sefydlogi. Mi fydd o’n rhan o hanes yr ynys yn fuan, ac mae lot o bethau ar yr ynys yn diflannu, yn anffodus. Mae’n siom i’w weld yn newid er y gwaethaf.”

Dywedodd Scott Beeland, sydd yn wreiddiol o Gaergybi ond bellach yn byw yng Nghilgwri: “Fe fyddai’n siom i weld y ‘Big Cig’ yn diflannu. I fi, mae’n un o dirnodau Ynys Môn ac yn sicr yn rhan o’n nhreftadaeth.

“Fe fyddai’n siom wirioneddol pe byddai’n mynd. Fe neshi adael Ynys Môn yn 1988 ond mae fy chwaer a fy rhieni dal yn byw yno.

“Dw i’n dod yn ôl bron bob mis ac mae’r simnai yn dweud wrthyf fy mod i bron adref yn Llanfaethlu.”

Newid

Mae eraill yn credu nad yw’r strwythur “y fwyaf apelgar i’r llygad”, a'i fod yn symbol o’r “angen i’r dref i symud ymlaen”.

Dywedodd James Lemin o Laneilian: “Yr un bobl sydd am ei weld yn aros yw’r un bobl sydd yn cwyno nad oes unrhyw newid ar yr ynys, dim diwydiant na swyddi yma. 

"Ydi, mae’n siom ac yn adeilad adnabyddus, ond mae’n rhaid i ni edrych ymlaen.”

Mae’r Cynghorydd Pip O’Neill yn dweud fod y cynllun Porthladd Rhydd yn cynnig “newid i’r ardal” ar ôl i nifer o swyddi cael eu colli dros y blynyddoedd.

“Mae’r Porthladd Rhydd yn rhywbeth sydd wir ei hangen ar yr ardal,” meddai. 

Image
Cynghorydd Pip O'Neill
Y Cynghorydd Pip O'Neill

“Rydyn ni angen swyddi, ar ôl i ni golli diwydiannau mawr fel Wylfa, Alwminiwm Môn ei hun, ac yn hanesyddol, cyflogwyr fel Wells Kelo a ffatri MEM - mae cymaint o fusnesau oedd yn arfer bod yma. 

“Roedd Caergybi yn arfer bod yn lle llewyrchus ac yn anffodus mae amseroedd wedi newid. Ond diolch byth, mae’r datblygiad hwn yn edrych yn bositif felly gobeithio y bydd newid yn yr ardal mwy o ffyniant.

“Gallwch chi ddim ei gadw i fyny am byth. Er ei fod yn rhan o’n tirlun, dydi o ddim yr adeilad fwyaf apelgar i’r llygad. Mae'n amser am newid, mae'n bryd iddo ddod i lawr. Bydd yn ddiwrnod hanesyddol a chredaf y dylem fod yn croesawu newid yn lleol. Dyna fy marn i. Mae'n rhaid i ni symud gyda'r oes, mae mor syml â hynny.”

‘Uchelgais’

Mae Stena Line yn dweud eu bod yn paratoi i gyflwyno achos busnes llawn am y cynllun, a fydd yn rhyddhau £26 miliwn o gyllid y Llywodraeth ar gyfer y prosiect.

Dywedodd Ian Davies, Pennaeth Awdurdodau Porthladdoedd y DU yn Stena Line: “Mae’r gwaith dymchwel wedi dechrau yn Prosperity Parc – hen safle Alwminiwm Môn – a hyd yn hyn wedi canolbwyntio ar gael gwared ar bum adeilad mawr ar y safle.

“Rydym wedi cynnal arolwg o’r simnai ac mae ei chyflwr strwythurol yn wael. Gallai ei adael yn ei le achosi perygl i ddiogelwch, tra hefyd yn atal Prosperity Parc rhag cyrraedd ei lawn botensial a datblygiad.

“Ar hyn o bryd rydym yn gweithio gydag arbenigwyr ar gynllun i ddymchwel y simnai yn ddiogel ac yn bwriadu ymgynghori â’r holl bartïon yr effeithir arnynt a’r cyrff statudol gofynnol – gan gynnwys awdurdodau ffyrdd a rheilffyrdd sy’n agos at y safle – cyn y gallwn osod dyddiad a hysbysu’r gymuned leol.

“Rydym mewn deialog cyson gyda rhanddeiliaid a chymunedau lleol ar ddatblygiad y safle a byddwn yn parhau i ymgysylltu â nhw wrth i ni gyflawni ein huchelgais o gael Porthladd Rhydd llwyddiannus, a fydd yn ysgogi buddsoddiad ar Ynys Môn. 

“Cyn y Nadolig, cynhaliwyd un o’n sesiynau galw heibio cymunedol yn Neuadd y Farchnad Caergybi, ac rydym yn bwriadu cynnal digwyddiadau ychwanegol yn ystod y mis nesaf. 

“Yn ddiweddar rydym wedi cyflwyno ein Hachos Busnes Amlinellol i Lywodraethau’r DU a Chymru, gan nodi carreg filltir arwyddocaol ym mhrosiect Porthladd Rhyd Ynys Môn.”

Lluniau: Facebook/@westofanglesey

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.