Newyddion S4C

'Cyfuniad o bantomeim a brwydrau': Y rhaglen deledu Gladiators yn dychwelyd

13/01/2024
Gladiators 2024

Fe fydd y gyfres deledu eiconig Gladiators yn dychwelyd i'r sgrîn fach nos Sadwrn.

Cafodd y gyfres ei darlledu am y tro cyntaf ar ITV ym 1992 gan barhau am wyth cyfres. 

Cafodd ei hatgyfodi yn 2008 ar Sky am ddwy gyfres yn unig. 

Bron i 15 mlynedd yn ddiweddarach, fe fydd y rhaglen yn dychwelyd ar y BBC, gyda'r tad a'r mab Bradley a Barney Walsh yn cyflwyno. 

Cafodd y gyfres newydd ei ffilmio yn Arena Utilita yn Sheffield.

Mae sawl Cymro wedi serennu yn y gyfres dros y blynyddoedd. 

Ymddangosodd Non Evans ar y gyfres ym 1997, ac mae ganddi atgofion melys o'r cyfnod. 

"Y flwyddyn o'n i ar Gladiators ym 1997, 0'n i'n athrawes addysg gorfforol yn Ysgol Gowerton, ag oedd un o'r plant ysgol 'di dodi'r ffurflen gais ar fy nrws i," meddai mewn cyfweliad diweddar.

"O'dd 26,000 o bobl wedi mynd trwy'r profion ffitrwydd ag o'n nhw'n dewis 32 o bobl, 16 menyw a 16 dyn felly jyst i fynd ar y sioe yn y lle cyntaf, dim ots fel o'ch chi'n neud, oedd e'n beth enfawr i gael eich dewis i fynd ar y sioe."

Yn ôl ffan o'r gyfres, Llwyd Owen, mae'r rhaglen yn "gyfuniad perffaith o bantomeim a brwydrau reit giaidd a rili corfforol achos er bod y cyhyre a'r spandex yn eitha' chwerthinllyd ar un lefel, unwaith o'dd y chwiban yn mynd, o'dd y brwydre yn gorfforol tu hwnt."

'Andros o brofiad'

Ymddangosodd y Cymro Barry Griffiths ar y gyfres yn 2010.

"Fel elli di ddychmygu, pawb o gwahanol sports, pobl athletics, pobl gymnastics, y peth dwytha oedda chdi isio neud oedd colli so oedda chdi'n mynd all out, oedd o'n andros o brofiad, oedd o'n briliant," meddai mewn cyfweliad i Heno.

"I ga'l deud bo' chdi wedi bod yn Gladiator, dwi 'di bod yn gwylio Gladiator ers yn hogyn bach a bod yn rhan o'r sioe, o'dd o'n anhygoel."

Fe fydd 16 Gladiators yn cymryd rhan sef Apollo, Athena, Bionic, Comet, Diamond, Dynamite, Electro, Fire, Fury, Giant, Legend, Nitro, Phantom, Sabre, Steel a Viper.

Bydd y gyfres newydd yn cynnwys gemau newydd yn ogystal â'r heriau traddodiadol.

Fe fydd Gladiators yn cael ei darlledu am 17:50 ar BBC One nos Sadwrn.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.