Canrif Dorothy: 'Diolch am gael deffro bob dydd'
Canrif Dorothy: 'Diolch am gael deffro bob dydd'
'Diolch am gael deffro bob dydd.'
Ar 21 Rhagfyr, roedd Mrs Dorothy Jones o Bencarnisiog ar Ynys Môn yn 100 oed.
Yn wreiddiol o Ddyffryn Clwyd, symudodd Mrs Jones i'r ynys gyda'i gŵr, Elwyn, a'u plant, John, Gareth ac Arwel ar ddiwedd y 1950au.
Felly sut brofiad ydi cyrraedd 100 oed, yn ôl Mrs Jones?
"Wel, ga i fod yn holl onest? Ar wahân i bo' fi ddim yn gallu bod fel oeddwn i, ond dwi ddim wedi meddwl amdana fo o gwbl fel bod o'n achievement neu rwbeth," meddai.
"Dwi jyst wedi ei gymryd o, 'ddaru mi 'rioed boeni be oedd penblwydd - oedd o fatha bob diwrnod arall am wn i 'lly 'de."
Er yn 100 oed, mae meddwl Mrs Jones mor ifanc ag erioed, yn enwedig yn y bore.
"Wel, dwi a dressing gown a crys nos ddim yn gymaint â hynny o fêts," meddai.
"Dwi'n codi, a ma'n un o'r pethe na fedra i ddim symud o llofft nes fydda i wedi gwisgo amdanaf gyntaf hyd yn oed os dwi'n tynnu nhw mewn ryw hanner awr wedyn i folchi."
'Ffodus'
Er ei bod wedi cael cyfnodau heriol yn ei bywyd, mae Mrs Jones yn teimlo yn lwcus iawn o gyrraedd y 100 oed.
"Eithriadol o ffodus, a be' fedra i ddeutha chi 'dwch? Ac wedi gallu dwad trwy'r pethe' 'ma," meddai.
"Dwi'n meddwl mai un o'r pethe sydd wedi syfrdanu fi fwya' fel oedd rhywun yn cael ei ddwyn i fyny ers talwm: 'Paid â pwyso ar ddydd Sul!'...'Paid â torri dy eniwedd!'...'Paid â chware pêl!...'Paid â cicio ffwtbol a pethe!'
"Ag erbyn heddiw, ma' pawb yn neud bob peth!"
O rygbi i rasys
Beth ydy diddordebau Mrs Jones?
"Fyddwn i yn andros o fond o wylio rygbi a dwi'n licio rasys a dwi'n licio gwylio, wrth fy modd yn gwylio golff! Dwi'n gwylio Dechrau Canu Dechrau Canmol, dwi wrth fy modd efo hynny!" meddai.
"Ma'n sowndio yn gruesome ond Midsummer Murders. Fyse chi'n rhyfeddu gymaint o wirionedde sy'n dod allan ohonyn nhw. Dwi wrth fy modd yn puzzleio pethe' allan, ma' hwnne' yn rhywbeth ers pan dwi yn cofio!"
O gael ei geni ychydig o flynyddoedd ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf i fyw yn Lerpwl yn ystod yr Ail Ryfel Byd, mae Mrs Jones wedi bod yn dyst i rai o ddigwyddiadau a datblygiadau mwyaf arwyddocaol y ganrif ddiwethaf.
Ond mae Mrs Jones yn teimlo ei bod hi wedi cymryd hyn yn ganiataol i ryw raddau.
"Dwi'n beio fi fy hun i ryw reswm achos oeddech chi'n cymryd hyn i gyd yn rywbeth 'Dyne neis' neu 'Dyne newid' o ran sut i fflio'r awyrenne 'ma, sut y gwnaed y Concorde, sut gwnaed y Lancaster," meddai.
"Oedd raid i chi fod â phobl oedd ddim yn deud be oedd y cyfrinache pwysig."
'Diolch'
Mae yna ddau beth yn benodol sydd yn bwysig mewn bywyd yn ôl Mrs Jones.
"Neud ymdrech i gael cydwybod," meddai. "Ddim am chi eich hun, byth. Am rywun arall.
"Peth arall, faswn i'n ddeud ydi un o'r pethe 'dech chi'n tueddu i feddwl, dwi'n ofnadwy am neud fy hun, bo' chi'n iawn ag eto, mewn ambell i wel ryw ffrae neu argument, fyse chi'n rhyfeddu pan ewch chi yn ôl a cael ryw ddau funud i feddwl i chi'ch hun, bod 'ne wastad ochr arall i beth oeddech chi'n licio feddwl hefyd.
"Wrach bod y profiade a be' dwi 'di ddysgu yn neud mistar ar fy hun bo' fi 'di gallu cyrraedd y 100 oed 'de.
"Diolch 'mod i'n gallu codi bob dydd, gwneud fy mrecwest a gwneud be' dwi isio bob bore. Diolch amdana fo."