‘Amharchus’: HSBC dan y lach eto am ofyn i gwsmer yrru neges yn Saesneg
Mae AS wedi beirniadu HSBC am fod yn “amharchus” ar ôl gofyn i gwsmer ail-yrru neges Gymraeg iddyn nhw yn Saesneg.
Cysylltodd y ferch gyda Llyr Gruffydd o Blaid Cymru ar ôl i aelod o dîm gofal cwsmeriaid HSBC ddweud nad oedden nhw'n medru darllen y neges Gymraeg.
Mewn ymateb i neges y cwsmer, dywedodd HSBC, yn Saesneg: “Diolch am eich neges ddiweddar. Rydych chi wedi anfon eich e-neges at wefan HSBC yn y DU. Yn anffodus, ni allaf ddarllen eich e-bost.
“Rydw i’n gofyn i chi i ail-anfon eich neges yn Saesneg fel y gallaf edrych i mewn i’r mater. Dw i’n difaru na allaf eich cynorthwyo mewn cysylltiad ag unrhyw gyfrif penodol drwy’r gwasanaeth negeseon hwn.
“Mae HSBC yn y DU wedi derbyn eich e-bost, ble allwn ni ymateb i’ch adborth ac ymholiadau bancio cyffredinol yn ymwneud â chynnyrch a gwasanaethau HSBC UK.”
Dywedodd Llŷr Gruffydd, sydd yn cynrychioli Gogledd Cymru yn y Senedd, bod hyn yn “esiampl arall” o “ddiystyrwch llwyr” y banc tuag at siaradwyr Cymraeg.
Mae HSBC wedi dweud eu bod yn "parhau i fod yn ymrwymedig i roi cefnogaeth barhaus i’n cwsmeriaid Cymraeg."
‘Methiant’
Cafodd y banc ei feirniadu ym mis Tachwedd ar ôl cyhoeddi y byddai eu llinell ffôn Cymraeg yn cael ei ddiddymu ym mis Ionawr.
Mae Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol y Senedd wedi ysgrifennu at y banc yn eu cyhuddo o ddangos “dirmyg” tuag at siaradwyr Cymraeg gan ychwanegu o bod “methiant HSBC i gynnal dull sy’n cyd-fynd â'i werthoedd yn cael ei ystyried yn annidwyll ac yn annifyr”.
Wrth gael ei holi gan y pwyllgor ddiwedd mis Tachwedd, dywedodd José Carvalho, Pennaeth Cyfoeth a Bancio Personol HSBC eu bod nhw’n sefydlu gwasanaeth galw yn ôl newydd a fyddai yn “gwarantu” bod ceisiadau yn cael eu hateb yn Gymraeg o fewn tridiau.
Dywedodd fod ganddyn nhw dri aelod o staff oedd yn ateb galwadau Cymraeg a Saesneg, oedd yn golygu mai "dim ond 6% o'r galwadau yn Gymraeg oedd yn cael eu hateb yn yr iaith".
"Trwy'r gwasanaeth galw'n ôl gallwn warantu bod pobl yn derbyn gwasanaeth yn Gymraeg,” meddai.
“Felly bydd mwy o alwadau yn Gymraeg.”
Fe wnaeth y pwyllgor ddadlau bod hynny yn golygu bod 94% o’r galwadau ddim yn cael eu hateb yn Gymraeg a bod hyn yn dangos methiant sylfaenol yng ngwasanaeth y banc.
'Diystyrwch llwyr'
Wedi’r gwyn gan gwsmer HSBC, dywedodd Llŷr Gruffydd AS: “Mae hyn yn esiampl arall o ddiystyrwch llwyr HSBC tuag at siaradwyr Cymraeg. Mae o yn gwbl annerbyniol bod HSBC wedi gofyn i fy etholwraig ailyrru eu ymholiad iaith Gymraeg yn Saesneg.
“Mae yna lawer iawn o rwystredigaeth a dicter yng Nghymru am agwedd HSBC tuag at yr iaith Gymraeg. Fel siaradwr Cymraeg fy hun a fel aelod o Bwyllgor Diwylliant y Senedd rydw i’n rhannu’r rhwystredigaeth yna.
“Mae HSBC wedi cau nifer mawr o ganghennau lleol ar draws gogledd Cymru dros y degawd diweddar, sydd wedi creu problemau i nifer o gwsmeriaid. Dylid gael ei gofio bod llawer o gwsmeriaid HSBC yn bobl hŷn ac yn fregus, ac eu bod nhw angen gwasanaeth bancio wyneb i wyneb.
“Pan mae cwsmer yn e-bostio yn Gymraeg y lleiafswm y dylent dderbyn ydi ateb yn Gymraeg. Rydw i hefyd yn galw eto ar HSBC ailystyru y penderfyniad i gau y llinell gymorth Cymraeg.
“Dylid cofio bod nifer o gwsmeriaid yn defnyddio HSBC achos o’r llinell gymorth Gymraeg, ac heb os mae o’n wir bod y banc ddim wedi gwneud digon i’w hybu. Mae hyn yn ergyd mawr arall i’w cwsmeriaid yng Nghymru, yn enwedig cwsmeriaid hŷn sydd yn cael trafferth cael mynediad i wasanaeth digidol.”
Ymateb
Dywedodd llefarydd ar ran HSBC: “Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i roi cefnogaeth barhaus i’n cwsmeriaid Cymraeg dros y ffôn, wyneb yn wyneb â siaradwyr Cymraeg yn hanner ein canghennau yng Nghymru, a gohebiaeth yn Gymraeg.
"Fodd bynnag, dim ond yn Saesneg y gallwn ni sgwrsio ar ein gwasanaeth sgwrs fyw (live chat). Gan nad ydym wedi cael manylion penodol y gŵyn hon, nid ydym wedi gallu ymchwilio i weld a oedd hyn drwy ein gwasanaeth sgwrs fyw neu sianel arall.
"Byddem yn awyddus i gysylltu â’r cwsmer i drafod y mater a deall mwy am yr hyn sydd wedi digwydd.”