Newyddion S4C

A wyddoch chi am wreiddiau Cymreig 'Deck the Halls'?

25/12/2023

A wyddoch chi am wreiddiau Cymreig 'Deck the Halls'?

Mae'r gân Deck the Halls yn cael ei hadnabod ar draws y byd fel un o ganeuon byd-enwog y Nadolig, ond mae gwreiddiau Cymraeg iddi.

Wrth balu drwy gerddi o Iwerddon fe wnaeth Rhodri McDonagh o'r Fenni ddod ar draws cân o'r enw 'Nos Galan' ac wedi synnu wrth ddod i ddeall bod Deck The Halls yn defnyddio’r un alaw.

Awdur 'Nos Galan' oedd y bardd a'r casglwr hen gerddi Cymreig o'r 19eg ganrif, John Ceiriog Hughes.

Rhannodd Rhodri McDonagh ei ganfyddiad ar ei gyfrif TikTok ac erbyn hyn mae'r fideo wedi cael ei wylio dros 250,000 o weithiau.

Dywedodd fod yr ymateb yn dangod bod angen gwneud mwy i godi ymwybyddiaeth o wreiddiau Cymraeg y gân.

"O'dd en jyst hollol syrpreis i fi i gwybod bod y alaw famous yn Cymraeg," meddai Rhodri McDonagh wrth Newyddion S4C.

"Amser maith yn ôl o'n i'n jyst yn darllen trwy hen cerddi yn gyffredin. A wedyn welais i section ar cerddoriaeth Cymraeg.

"O'n i'n astudio cerddoriaeth o Iwerddon ar y pryd ac o'n i'n trial darganfod cerddorion Cymraeg ar y pryd hefyd. 

"Ac welais i alaw o'r enw 'Nos Galan.' O'n i'n dechre darllen yr alaw ac, dwi 'di sylweddoli mae'r alaw ydy Deck the Halls.

"I ddarganfod yr alaw y most famous tune in the world yn dod o Gymru yn jyst arbennig rili."

Image
Nos Galan
Alaw Nos Galan. Llun: Rhodri McDonagh

Dyma bennill cyntaf y gân:

Oer yw'r gŵr sy'n methu caru,

Ffa la la la la, la la la la,

Hen fynyddoedd annwyl Cymru,

Ffa la la la la, la la la la,

Iddo ef a'i gâr gynhesaf,

Ffa la la, la la la, la la la,

Gwyliau llawen flwyddyn nesaf,

Ffa la la la la, la la la la.

Traddodiad nos galan

Yn wahanol i'r gân enwog sydd wedi ei chysylltu â'r Nadolig, nid yw 'Nos Galan' yn sôn am yr ŵyl.

Cân hiraethus am gariad a'r gaeaf yw Nos Galan sydd yn cynnwys disgrifiadau o'r traddodiadau sy'n ymwneud â dathlu'r flwyddyn newydd.

"Mae pawb yn gwybod bod carol Deck the Halls yn carol Nadolig, ond, mae'r 'Nos Galan' yn wreiddiol yn dod o traddodiad nos galan," meddai Mr McDonagh.

"Amser maith yn ôl wnaeth pawb yn eistedd ar bwys y tân ac o'dd na arfer canu ac yn yfed ac o'dd jyst sort of, dod gyda'i gilydd ac yn dathlu y blwyddyn newydd."

Mae Rhodri McDonagh, a astudiodd MA mewn Music for the Moving Image yn credu bod angen i bobl fod yn ymwybodol o'r geiriau Cymraeg.

Dywedodd fod yr ymateb i'r fideo ar TikTok a gafodd ei wylio 250,000 o weithiau yn dangos nad oedd cefndir y gân yn hysbys, hyd yn oed i'r Cymru.

"Mae pobl wedi anghofio am y geiriau Cymraeg, hyd yn oed yng Nghymru," meddai.

"Ond, i fi mae'n bwysig i sort of ganolbwyntio ar pethe fel'na ac yn jyst dathlu beth mae'r wlad 'ma wedi cynhyrchu."

Image
Rhodri McDonagh
Mae Mr McDonagh wedi synnu gyda'r ymateb ar ei fideo TikTok.

'Dwi eisiau dysgu'

Wedi iddo roi ei fideo ar TikTok mae Rhodri wedi derbyn ymateb sylweddol yng Nghymru a thu hwnt.

Roedd pobl o America yn gadael sylwadau yn dweud eu bod nhw am ddysgu'r geiriau Cymraeg ac roedd pobl o Gymru yn dweud nad oeddynt yn ymwybodol o'r gwreiddiau Cymreig.

Mae Rhodri yn canu'r gân ar ddiwedd y fideo er mwyn i bobl gwybod sut mae'n cael ei chanu.

"Dwi'n synnu at faint mor poblogaidd o'dd yr fideo. Ma' fe wedi sort of blown up ar-lein rili," meddai.

"Mae gyda ni lot o diddordeb yn y cân 'na a dwi 'di cael sylwadau o bobl o America yn dweud 'oh I'm gonna learn this now'.

"Ond mae lot o pobl wedi bod yn ofyn i fi am y geiriau ac dwi'n gobeithio i weld mwy pobl yn canu y geiriau wreiddiol rili."
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.