Newyddion S4C

S4C: Arbenigwr yn awgrymu y dylai BBC Cymru gymryd rheolaeth o ddarlledu Cymraeg

Newyddion S4C 01/12/2023

S4C: Arbenigwr yn awgrymu y dylai BBC Cymru gymryd rheolaeth o ddarlledu Cymraeg

Mae arbenigwr ar y cyfryngau wedi awgrymu mai'r BBC fyddai y safle orau i reoli S4C wrth ymateb i sgandal presennol y sianel.

Ddydd Gwener ddiwethaf, fe gafodd y cyn-brif weithredwr Sian Doyle ei diswyddo mewn "penderfyniad anodd ond unfrydol" gan aelodau annibynnol bwrdd S4C.
 
Fe wnaethon nhw honni fod y penderfyniad wedi ei seilio ar dystiolaeth - sydd heb ei chyhoeddi eto - gan ymchwiliad annibynnol cwmni cyfreithiol Capital Law.
 
Mae Ms Doyle yn gwadu gwneud unrhyw beth o'i le.
 
Mewn llythyr i'r Ysgrifennydd Diwylliant ddydd Iau, fe ddywedodd Ms Doyle fod cadeirydd y sianel, Rhodri Williams, yn "ymgorffori diwylliant o ofn" yn S4C.
 
Wrth i'r ffrae gyhoeddus honno barhau, mae'r newyddiadurwr cyfryngau a'r arbenigwr ar hanes Channel 4, Maggie Brown, wedi dweud wrth raglen Newyddion S4C: "Mae'n fy nhristau i weld y sefyllfa ranedig ac amhleserus sydd wedi datblygu yn S4C. Mae arna i ofn yr es i drwy gyfnod debyg iawn yn 2010 pan adawodd y prif weithredwr.
 
"Os ydych chi am i S4C ffynnu, mae'n rhaid gweld a yw'n gallu rhedeg ei hun yn iawn.
 
"Dw i'n meddwl, yn greiddiol, mae angen i ni wybod os yw'n gallu cael ei wella neu os yw'n rhywfaint o basket case ac angen iddo gael ei ail-ddyfeisio.
 
"Neu, dw i wedi codi hyn, a dw i'n gwybod ei fod yn ddadleuol. Hyd yn oed, o bosib, fod yr amser wedi dod i BBC Cymru gael uned ar wahan sy'n rhedeg system cynnwys darlledu Cymraeg pur."
 
'Rhyfeddu'
 
Hefyd, wrth ymateb i'r sylwadau yn llythyr Sian Doyle ynglyn a'r lleihad yn nifer y comisiynau a gafodd y 'Pump Mawr', dywedodd cadeirydd Teledwyr Annibynnol Cymru (TAC), Dyfrig Davies:
 
"Dw i'n rhyfeddu bod hyn wedi cael ei roi mewn heb bod 'na ryw drafodaeth wedi bod.
 
"Pe bai 'na strategaeth yn bodoli a dw i ddim yn credu bod e, bydde' hwnna wedi mynd, does bosib, drwy'r awdurdod, bydde' hwnna wedi ei gyfathrebu gyda ni'n gyffredinol.  Mae angen cwmniau o bob maint ac o bob math."
 
Dywedodd llefarydd ar ran y BBC: "Bwrdd S4C sy'n gyfrifol am redeg y gwasanaeth. Mae'n annibynol o'r BBC yn olygyddol a gweithredol."
 
Mewn datblygiad arall ddydd Gwener, fe darodd y sector cynhyrchu annibynnol yn ol yn dilyn sylwadau Sian Doyle.
 
Fe wnaeth Ms Doyle honni ei bod wedi torri'r status quo o leihau nifer y comisiynau oedd yn cael eu rhoi i'r 'Pump Mawr' o gwmniau cynhyrchu - sef Tinopolis, Cwmni Da, Afanti, Rondo a Boom.
 
Fe honnodd eu bod yn darparu dros ddwy ran o dair o raglenni'r sianel pan ymunodd a'r sianel, ac o fewn dwy flynedd, fe ostyngodd y ffigwr hwnnw i 54%.
 
Ond mewn cyfweliad gyda rhaglen Newyddion S4C, dywedodd y cyn-gomisiynydd gydag S4C a phennaeth ei ddarpariaeth cynnwys, Llion Iwan, sydd bellach yn Rheolwr Gyfarwyddwr Cwmni Da, fod y datganiad yn bryderus.
 
"Os fydda'r fath bolisi yn cael ei weithredu, pa mor deg ydy o? Achos mae'n tynnu gwaith - nid am resymau cyllidebol - dim ond achos bod cwmniau'n llwyddiannus. Ym mha gwmni arall fyddai hynny'n digwydd?"
Image
newyddion
Llion Iwan yw Rheolwr Gyfarwyddwr Cwmni Da
Fe gwestiynodd sylwadau Ms Doyle gan ofyn a yw gweld cynnwys S4C ar Netflix a phlatfformau Maximum Effort wir yn llwyddiant.
 
"Ydyn ni wirioneddol mor daeogaidd a bo' ni'n dathlu bod chwech awr o gynnwys ar blatfform fel Netflix. Ai fan 'na 'dan ni 'di suddo?
 
"Ry'n ni wedi bod yn gwerthu cynnwys yn rhyngwladol fel sector ers blynyddoedd lawer a 'di cael llawer mwy o lwyddiant. Ma' 'na dipyn mwy o arian wedi dod i mewn i'r sector yn sgil hynny hefyd.
 
"A'r platfform yn America [Maximum Effort] gafodd ei gyhoeddi eleni, 'dan ni'n dal i ddisgwyl y dystiolaeth am faint o arian ma' hwnna'n mynd i ddod i fewn."
 
Dywedodd llefarydd ar ran S4C "nad oes polisi gan S4C o leihau comisiynau y pum cwmni ‘mawr’ ac nid yw’r Bwrdd wedi cymeradwyo polisi o’r fath.
 
“Rydym ni yn comisiynu ar sail cryfder y syniadau sy’n cael eu cynnig.
 
"Mae’n holl bwysig fod yna gymysgedd o ddarparwyr cynnwys yn cyflenwi S4C, a hynny yn gwmnïau bychain a rhai mwy."
 
Ymateb
Image
newyddion
Fe gafodd y cyn-brif weithredwr Sian Doyle ei diswyddo mewn "penderfyniad anodd ond unfrydol" gan aelodau annibynnol bwrdd S4C
Dywedodd Ms Doyle mewn datganiad: “Cafodd strategaeth gyffredinol S4C ei chymeradwyo’n unfrydol gan fwrdd y sianel a'r Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon ym mis Chwefror 2022. Fe’i cynlluniwyd i sicrhau cystadleuaeth deg, creadigrwydd, a thryloywder ym mhroses gomisiynu S4C, ac i amrywio sylfaen gyflenwi’r sianel.
 
“Pan oeddwn i’n Brif Weithredwr S4C, roedd penderfyniadau comisiynu’n seiliedig ar deilyngdod, gofynion y gynulleidfa, gwerth i dalwyr ffi’r drwydded, ac ar y graddau yr oeddent yn cynrychioli pobl Cymru. Mae unrhyw awgrym i’r gwrthwyneb yn ddi-sail ac yn anghywir."
 
Dywedodd yr Athro Jamie Medhurst o adran Ffilm a Chyfryngau Prifysgol Aberystwyth ei fod yntau hefyd yn bryderus dros ffrae gyhoeddus S4C a'r effaith bosib ar ddyfodol y sianel.
 
"Yr peth sy'n 'y mhoeni i yw bod y ddadl gyhoeddus yma yn rhoi mwy o fwledi i'r rheiny sy' falle' eisiau tanseilio'r sianel neu sydd a rhywbeth yn erbyn y sianel yn barod. Mae'n drueni bod e mor gyhoeddus.
 
Dydy S4C ddim wedi dweud pryd y byddan nhw'n cyhoeddi canfyddiadau ymchwiliad Capital Law i honiadau o fwlio. Mae disgwyl i'r adroddiad gael ei gyhoeddi yn y dyfodol agos.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.