Tro pedol ar gynllun i uno chwech o adrannau chweched dosbarth yng Ngwynedd
29/11/2023Fydd Cyngor Gwynedd ddim yn bwrw ymlaen â chynllun posib i uno adrannau chweched dosbarth chwe Ysgol Uwchradd yn Arfon a chreu un ganolfan addysg ôl 16.
Fe gafodd y syniad ei grybwyll yn wreiddiol cyn y pandemig a hynny er mwyn gwella cyfleoedd addysg a gwneud arbedion, gyda’r sefyllfa yn ôl swyddogion bryd hynny yn ‘anghynaliadwy’.
Ond yn ôl adroddiad sydd wedi ei ystyried gan aelodau Cabinet Cyngor Gwynedd, “dyw’r achos dros newid ddim mor gryf erbyn heddiw”.
'Cryfhau'r sector'
Mewn datganiad i Newyddion S4C fe ddywedodd aelod Cabinet Addysg y Cyngor, y Cynghorydd Beca Brown mai’r flaenoriaeth rŵan ydi “cydweithio i adnabod y ffyrdd gorau o gryfhau’r sector”.
Fe wynebodd y cynllun o uno adrannau chweched dosbarth gogledd Gwynedd ymateb chwyrn gan ymgyrchwyr, gyda Chymdeithas yr Iaith yn dweud bod angen gwella’r ddarpariaeth bresennol.
Ar hyn o bryd, ysgolion Arfon ydy'r unig rai yng Ngwynedd - oni bai am Y Bala - sy'n parhau i fod ag adrannau chweched dosbarth traddodiadol.
Yn ardaloedd Dwyfor a Meirionnydd mae'r mwyafrif o ddisgyblion yn mynychu colegau chweched dosbarth megis Coleg Meirion Dwyfor, sydd â champws yn Nolgellau a Phwllheli.
Ond yng ngogledd y sir mae gan ysgolion Dyffryn Ogwen ym Methesda, Tryfan a Friars ym Mangor, Brynrefail yn Llanrug, Syr Hugh Owen yng Nghaernarfon a Dyffryn Nantlle ym Mhenygroes, oll eu hadran chweched eu hunain.
Mewn adroddiad i gabinet y cyngor yn 2020, fe ddywedodd swyddogion eu bod eisiau dechrau trafodaeth ac yn awgrymu bod y sefyllfa bresennol yn anghynaliadwy.
'Parhau o fewn y chwe ysgol uwchradd'
Ond mewn cyfarfod cabinet ddydd Mawrth fe amlinellodd adroddiad newydd nad oedd awydd nag angen bellach i uno'r adrannau chweched dosbarth.
“Cynhaliwyd cyfarfodydd rhithiol gyda dysgwyr, rhieni, staff, dysgu a llywodraethwyr yn ystod y cyfnod er mwyn rhoi cyfle iddynt leisio eu barn a holi unrhyw gwestiynau ynglŷn â’r maes”, medd yr adroddiad.
“Cynhaliwyd 6 sesiwn rhithwir, a bu i dros 140 o rhanddeiliaid.
“Casgliad y broses ymgysylltu, a barn glir y Penaethiaid ydi y dylai’r ddarpariaeth Addysg Ôl 16 yn Arfon barhau o fewn y chwe ysgol uwchradd."
Mewn datganiad dywedodd y Cynghorydd Beca Brown, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros Addysg fod y pandemig wedi trawsnewid y ffordd mae addysg yn cael ei ddarparu.
“Gyda defnydd creadigol o dechnoleg yn galluogi addysgwyr i gyfuno dysgu wyneb-wyneb a dysgu rithiol effeithiol.
“Fel cabinet rydym wedi penderfynu rhoi’r cynlluniau blaenorol i ddiwygio darpariaeth addysg ôl 16 yn ardal Arfon i un ochr.
“Dros y misoedd nesaf byddwn yn ail-afael yn y mater er mwyn cydweithio a chyd-drafod gyda’n pobl ifanc, eu rhieni a staff dysgu i adnabod y ffyrdd gorau o gryfhau’r sector i’r dyfodol”.