Newyddion S4C

'Enfys' o Aberystwyth yn mynd ar daith i blaned Mawrth

23/11/2023

'Enfys' o Aberystwyth yn mynd ar daith i blaned Mawrth

Mae prifysgol yng Nghymru yn arwain y gwaith o ddatblygu darn allweddol o offer fydd yn mynd i’r blaned Mawrth.

Bydd gwaith ar yr offeryn newydd yn cael ei arwain gan Brifysgol Aberystwyth gyda chefnogaeth gan Brifysgol Coleg Llundain, RAL Space - sef labordy cenedlaethol y Deyrnas Unedig ar gyfer ymchwil yn y gofod - a chwmni Qioptiq.

Mae’r offeryn wedi cael ei enwi’n ‘Enfys’ a bydd yn cael ei osod ar y cerbyd neu’r crwydryn (‘rover’) fydd yn cael ei lansio i’r blaned goch yn 2028.

Bydd Enfys yn disodli darn o offer a adeiladwyd yn wreiddiol gan Rwsia. Prosiect ar y cyd rhwng Ewrop a Rwsia oedd y daith i'r blaned Mawrth yn wreiddiol. Ond yn dilyn yr ymosodiad ar Wcrain, penderfynodd Asiantaeth Ofod Ewrop ei ailgynllunio a chynnwys cydrannau o Ewrop ac America yn unig. Mae hyn yn golygu bod y lansiad wedi'i ohirio tan 2028.

Bydd Enfys yn gweithio gyda chamerâu’r crwydryn i adnabod mwynau ar wyneb Mawrth wrth iddo chwilio am arwyddion o fywyd. Pan fydd Enfys yn canfod mwynau a ffurfiwyd ym mhresenoldeb dŵr, bydd gwyddonwyr sy'n rheoli’r crwydryn yn gallu ei orchymyn i ddrilio hyd at 2 fetr o dan wyneb y blaned i gymryd samplau i'w dadansoddi. 

Mae Asiantaeth Ofod y DU yn darparu £10.7 miliwn i ariannu datblygiad Enfys.

'Cryn gyffro'

Dywedodd Dr Matt Gunn o Brifysgol Aberystwyth, y Prif Ymchwilydd ar Enfys: “Mae’r gofod a’r technolegau sy’n cael eu defnyddio i’w archwilio wedi fy swyno erioed, ac felly mae arwain datblygiad un o offerynnau gwyddoniaeth allweddol y daith hon yn destun cryn gyffro i mi. 

“Mae’r buddsoddiad hwn gan Asiantaeth Ofod y Deyrnas Gyfunol hefyd yn gymeradwyaeth enfawr o ansawdd ymchwil y gofod yma ym Mhrifysgol Aberystwyth, a fydd yn effeithio ar ein byd ac eraill am genedlaethau i ddod.”

Eglurodd Dr Gunn rol allweddol Enfys wrth benderfynu lle dylai’r crwydryn chwilio am dystiolaeth o fywyd – “Mae ‘na lawer o wahanol fathau o fwynau ar y blaned Mawrth, ond mae rhai ohonyn nhw yn awgrymu i ni fod dŵr wedi bod yn bresennol wrth iddyn nhw gael eu ffurfio yn y gorffennol.

" Os gallwn ni ddod o hyd i'r mwynau hynny, yna ry’n ni’n gwybod eu bod nhw wedi cael eu ffurfio naill ai mewn llyn neu afon. Mae Enfys yn caniatáu i ni fesur eu sbectrwm a phenderfynu yn union ble maen nhw.

 

“(Heb Enfys) gallwch chi ddweud yn fras pa fathau o fwynau ydyn nhw, ond allwch chi ddim  dweud yr union fath o fwynau, felly mae Enfys yn caniatáu i chi nodi'r samplau pwysig mewn gwirionedd. Dim ond hyn a hyn o gyfleoedd fydd gennym ni i ddrilio, mae'n cymryd llawer o amser. Felly mae angen i ni wneud yn siŵr ein bod ni'n drilio yn y llefydd cywir i gasglu samplau ar gyfer yr offer dadansoddi ar y cerbyd. "

'Oerfel eithafol'

Un o'r agweddau mwyaf heriol o ddylunio offer ar gyfer y crwydryn yw sicrhau eu bod yn gallu gweithredu yn yr oerfel eithafol ar y blaned Mawrth, lle gall y tymheredd ostwng mor isel â -120 gradd Celsius.

Dywedodd Dr Gunn – “ Mae amgylchedd Mawrth yn galed iawn, felly mae gwneud yn siŵr bod popeth yn goroesi nosweithiau oer y blaned ac yn parhau i weithredu am fisoedd yn her wirioneddol. Mae gennym ni system gwactod thermol bwrpasol (yn y labordy) lle ry’n ni’n profi'r holl gydrannau ac is-systemau. Byddwn ni’n profi'r rheini dros y misoedd nesaf, i lawr i lai na meinws 130 gradd, ac yna hyd at 50 gradd, gannoedd o weithiau.”

Dywedodd Libby Jackson, Pennaeth Archwilio’r Gofod yn Asiantaeth Ofod y DU, fod rol y brifysgol yn y canolbarth yn allweddol – “Bydd Enfys, mewn cydweithrediad â PanCam, yn galluogi’r crwydryn i adnabod y mannau iawn i fynd i ddrilio. Bydd yn arbed amser a bydd yn golygu y gallwn ni wneud y mwyaf o botensial gwyddonol y daith hon. Ry’n ni wrth ein bodd bod y DU yn gallu chwarae’r rôl hon wrth ddod â’r crwydryn yn ôl i’w botensial llawn, a bydd Aberystwyth yn gwneud gwaith gwych gyda’r offeryn hwn.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.