Canfod pedwar corff wrth chwilio am ddynion ifanc oedd ar goll yn Eryri
Canfod pedwar corff wrth chwilio am ddynion ifanc oedd ar goll yn Eryri
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cyhoeddi bod swyddogion wedi dod o hyd i bedwar corff tra'n chwilio am ddynion ifanc oedd heb eu gweld yn Eryri ers brynhawn dydd Sul.
Cafwyd hyd i'r cyrff mewn car oedd wedi gadael y ffordd ar yr A4085 yn Garreg ger Tremadog.
Dywedodd yr Uwcharolygydd Owain Llewellyn mewn datganiad brynhawn dydd Mawrth: “Ar hyn o bryd, mae’n ymddangos mai damwain drasig ydy hi, ac mae ein meddyliau ni hefo teulu a ffrindiau’r pedwar dyn ifanc yn y cyfnod anodd iawn hwn.
“Bu chwilio helaeth a oedd yn cynnwys nifer o asiantaethau a gwirfoddolwyr gwahanol."
Ychwanegodd fod swyddogion wedi dod ar draws Ford Fiesta oedd wedi troi drosodd ac yn rhannol o dan ddŵr.
Cafodd cyrff y pedwar o ddynion ifanc eu tynnu o'r cerbyd, meddai, gan ychwanegu bod eu teuluoedd wedi cael gwybod am y datblygiad diweddaraf.
"Yn anffodus, dim dyma’r hyn oedden ni eisiau ei gael. ‘Da ni’n gofyn i’r teulu gael y preifatrwydd a’r parch priodol.”
Mae ymchwiliadau’n parhau er mwyn sefydlu’r amgylchiadau a arweiniodd at y car yn gadael y ffordd.
Apêl
Yn hwyr nos Lun fe apeliodd yr heddlu am wybodaeth am y pedwar dyn oedd wedi eu gweld ddiwethaf ddydd Sul.
Y pedwar oedd Jevon Hirst, Harvey Owen, Wilf Henderson a Hugo Morris, a'r gred yw eu bod yn dod o ardal Yr Amwythig ac yn gwersylla yn Eryri.
Roedd yr heddlu wedi gofyn am wybodaeth am y dynion oedd ar goll yn ardal Harlech/Porthmadog.
Ar y pryd fe apeliodd swyddogion am wybodaeth am gar Ford Fiesta arian gyda phlatiau adnabod HY14GVO cyn iddynt ddiflannu.
Brynhawn dydd Mawrth fe gafwyd hyd i'r Ford Fiesta ac fe gafodd ffordd yr A4085 rhwng Garreg a Phont Aberglaslyn ei chau er mwyn i'r gwasanaethau brys gynorthwyo yn yr ardal.
Wrth ymateb i'r datblygiad diweddaraf, dywedodd Aelod Seneddol Dwyfor Meirionnydd, Liz Saville Roberts a’r Aelod Senedd Mabon ap Gwynfor:
"Dyma newyddion gwirioneddol dorcalonnus ac fel rhieni ein hunain, mae ein meddyliau'n mynd allan i deuluoedd a ffrindiau'r pedwar dyn ifanc sydd wedi colli eu bywydau yn y digwyddiad trasig hwn.
"Hoffem dalu teyrnged i'r gwasanaethau brys a'r timau achub mynydd lleol sydd wedi bod yn rhan o’r ymdrech chwilio, ac i aelodau'r cyhoedd am eu cymorth i helpu i ddod o hyd i'r cerbyd.
Ni all unrhyw eiriau adlewyrchu'n ddigonol y tristwch a ddaw i'n cymuned gyfan yn sgil y newyddion hyn."