Ymchwiliad Covid-19: Boris Johnson wedi ei 'ddrysu' gan ddata'r pandemig
Roedd Boris Johnson wedi’i “ddrysu” gan ddata a graffiau gafodd eu dangos iddo yn ystod cyfnod y pandemig, yn ôl tystiolaeth gwyddonydd i'r Ymchwiliad Covid-19.
Roedd Mr Johnson, a gafodd ei heintio gyda’r feirws yn ystod ei gyfnod fel Prif Weinidog hefyd yn ymddangos fel ei fod wedi ei “dorri,” wrth ddod i’r arfer â gweld pobl yn cadw pellter er mwyn atal y feirws rhag ymledu.
Cafod manylion o ddyddiadur Syr Patrick Vallance, cyn-brif ymgynghorydd gwyddonol Llywodraeth y DU, eu cyhoeddi yn ystod gwrandawiad yr ymchwiliad ddydd Llun.
Yn ôl cofnodion Syr Vallance, roedd Mr Johnson yn cael hi’n anodd deall gwybodaeth wyddonol a gafodd ei gyflwyno iddo, ac nid oedd yn deall y gwahaniaeth rhwng y gwahanol brofion Covid-19 ar un adeg.
Roedd hefyd cwestiynu oes oedd y feirws yn ymledu oherwydd natur “ryddfrydol ein cenedl,” meddai’r dystiolaeth.
“Rwy’n credu fy mod i’n gywir yn ddweud fod y Prif Weinidog wedi rhoi’r gorau i ddysgu gwyddoniaeth pan oedd yn 15,” meddai Syr Vallance wrth siarad ag Andrew O’Connor KC.
Cofnodion
Mewn un cofnod o 5 Mai 2020, ysgrifennodd Syr Vallance: “Cyfarfod hwyr gyda’r Prif Weinidog ynglŷn ag ysgolion. Duw, mae hyn yn gymhleth. Ni fydd modelau yn rhoi’r atebion. Mae’r Prif Weinidog yn ‘bamboozled’.”
Mewn cofnod arall o’r un adeg, dywedodd: “Mae’r Prif Weinidog yn dal wedi’i ddrysu gan y mathau gwahanol o brofion. Mae’n ei gadw yn ei ben am un sesiwn yn unig ac yna mae’r wybodaeth yn diflannu.”
Ym mis Mehefin, ysgrifennodd Syr Vallance: “Mae gwylio’r Prif Weinidog yn ceisio deall ystadegau yn ofnadwy. Mae bron yn amhosib iddo ddeall (y gwahaniaeth rhwng) risg gymharol ac absoliwt.”
Ond wrth siarad yn yr ymchwiliad ddydd Llun dywedodd Syr Vallance nad oedd yr achos yn “unigryw” i arweinwyr y DU yn unig, ac roedd tystiolaeth o wledydd Ewropeaidd eraill wedi awgrymu bod o leiaf un arweinydd arall hefyd wedi cael trafferth i ddeall y wyddoniaeth.
Llun o'r chwith i'r dde: Chris Whitty, Boris Johnson, Syr Patrick Vallance (PA WIRE)