Newyddion S4C

Pedwar dyn yn euog o lofruddio Ashley Dale yn Lerpwl

20/11/2023
Ashley Dale

Mae pedwar dyn wedi eu dyfarnu'n euog o lofruddio dynes ifanc yn ei chartref yn Lerpwl, wedi ffrae rhyngddyn nhw â'i chariad. 

Cafodd Ashley Dale, 28  ei saethu wrth ddrws cefn ei thŷ yn ardal Old Swan ym mis Awst 2022.  

Yn Llys y Goron Lerpwl brynhawn Llun, dyfarnodd y rheithgor fod James Witham, 41, Joseph Peers, 29, Niall Barry, 26, a Sean Zeisz, 28, yn euog o'i llofruddio. 

Clywodd y llys fod Miss Dale a oedd yn swyddog iechyd yr amgylchedd wedi cael ei lladd pan ruthrodd James Witham i mewn i'w chartref yn ystod oriau mân y bore ar 21 Awst, gan danio deg bwled yn ei hystafell fwyta. Fe darodd un ohonyn nhw Miss Dale yn ei bol, tra roedd hi'n sefyll wrth ddrws y cefn. 

Roedd Witham wedi pledio'n euog i gyhuddiad o ddynladdiad, ond dyfarnodd y rheithgor ei fod hefyd yn euog o'i llofruddio, ynghyd â Joseph Peers, 29. 

Clywodd y llys i Peers yrru cerbyd i'r safle ac iddo heplu Witham cyn hynny i ddifrodi teiars car Ms Dale mewn ymgais ddenu'r rhai oedd yn y cartref allan o'r adeilad . 

Cafodd Niall Barry a Sean Zeisz hefyd eu canfod yn euog o lofruddiaeth ar ôl i'r rheithgor glywed iddyn nhw drefnu ac annog y saethu. 

Roedd tensiynau rhwng y criw a chariad Miss Dale, Lee Harrison ers tua thair blynedd. Fe ail gydiodd y ffrae yng Ngŵyl Glastonbury ym Mehefin 2022 yn dilyn honiadau fod cyffuriau wedi eu dwyn.

Dyfarnodd y rheithgor fod Ian Fitzgibbon, 28, a oedd wedi ei gyhuddo o drefnu ac annog y saethu yn ddieuog o'i llofruddio.  

Cafwyd Kallum Radford, 26, yn ddieuog o gynorthwyo troseddwr, ar ôl cael ei gyhuddo o helpu i storio'r car a gafodd ei ddefnyddio ar y noson. 

Bydd yr achos dedfrydu yn cael ei gynnal fore Mercher. 

Cafodd Ashley Dale ei llofruddio ddiwrnod cyn llofruddiaeth y ferch fach 9 oed Olivia Pratt-Korbel yn yr un ddinas, mewn achos arall o saethu yn Lerpwl.  

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.