Newyddion S4C

Penaethiaid diwydiannau creadigol yn trafod bygythiad AI

20/11/2023
deallusrwydd artiffisial

Bydd nifer o benaethiaid ffilm,  cerddoriaeth, a chyhoeddi yn cwrdd gweinidogion Llywodraeth y DU ddydd Llun i drafod bygythiad Deallusrwydd Artiffisial (AI) i'r diwydiannau creadigol.

Daw hyn wedi streic 118 diwrnod diweddar gan actorion yn Hollywood, sy'n bryderus ynglŷn â'r effaith y gallai'r dechnoleg gael ar eu bywoliaeth.

Mae nifer o actorion enwog, gan gynnwys Brian Cox o "Succession", a seren "Lord of the Rings" Andy Serkis, wedi mynegi pryderon ynglŷn ag effaith posib AI ar y byd actio.

Mae disgwyl i'r cyfarfod gynnwys trafodaeth ynglŷn â sut y gall deunydd sydd dan hawlfraint gael ei ddefnyddio heb ganiatâd i hyfforddi modelau AI fel Chat GPT.

Ond yn ogystal bydd yn ystyried sut y gallai AI gael ei ddefnyddio mewn modd positif , gan helpu artistiaid i berfformio mewn dulliau newydd, fel yn sioe "Abba Voyage", wnaeth ddefnydd o "avatars". 

Dywedodd Ysgrifennydd Diwylliant Llywodraeth y DU, Lucy Frazer:"Mae cryfderau a llwyddianau y DU yn y byd celfyddyd ac adloniant yn golygu ein bod ni mewn lle da i fanteisio ar y dechnoleg sy'n datblygu yn y maes.

"Ond mae gan bobl greadigol bryderon ynglŷn â sut y bydd AI yn defnyddio eu gwaith nawr ac yn y dyfodol, a dwi eisiau clywed y pryderon hynny."

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.