
Eisteddfod Ffermwyr Ifanc yn cynnig 'llwyfan i bawb'
Mae Eisteddfod Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru yn cael ei chynnal ar Ynys Môn ddydd Sadwrn gan gynnig "llwyfan i bawb".
Dyma’r tro cyntaf i’r Eisteddfod ddychwelyd i’r Ynys ers deng mlynedd.
Yn ôl Cadeirydd yr Eisteddfod, Gwen Edwards, mae’r Eisteddfodau yma yn "llwyfan i bawb".
“Mae mor bwysig i aelodau – dim pob un sy’n mwynhau gwneud yr ochr amaeth o ffermio.
“Dwi'm yn ochr amaethyddol o gwbl ond dwi’n mwynhau yr ochr perfformio ac actio
“Mae’n gyfle arbennig i bobl ddangos eu doniau a’u talentau ac mae’n cynnig llwyfan i bawb nid dim ond pobl amaeth.”
Mae dros 700 o aelodau yn cystadlu eleni gyda chynrychiolaeth o'r goreuon o 11 o siroedd Cymru.
Chwip o sioe
Cae Sioe Môn yw lleoliad yr Eisteddfod eleni ac mae'r pwyllgor wedi bod yn brysur yn trawsnewid y sied i gynnal y digwyddiad.
Er iddyn nhw wynebu trafferthion yn cadarnhau'r lleoliad, dylai gwylwyr a chefnogwyr edrych ymlaen am “chwip” o ddigwyddiad, medd Gwen.
“Mae lot fawr o baratoi wedi mynd mewn i’w chynnal eleni. Ni wedi bod wrthi ers dros blwyddyn a hanner," meddai.
“Bydd gwylwyr yn sicr yn cael chwip o sioe, o be dwi di dallt gan siroedd eraill.
“Mae’n braf cael agor y neuadd i gymaint o aelodau a chynnal gwledd i bawb,” meddai.
Mae cystadlaethau yn amrywio o rai traddodiadol, y llefaru a chanu i rai mwy ysgafn fel y ddeuawd neu driawd doniol a’r sgetsys.
Tra gwahanol
Yn ôl Prif Weithredwr CFfI Cymru, Mared Rand Jones, mae'r digwyddiad yn “denu pobl ifanc sydd ddim yn draddodiadol yn cystadlu mewn eisteddfodau".
"Mae'r diwrnod yn dra wahanol i Eisteddfodau yr Urdd neu'r Genedlaethol.
“Beth sy’n wahanol yw bod cystadleuthau adran ysgafn sydd bob tro yn boblogaidd tu hwnt.
“Mae rhai yn dewis cystadlu yn y meimo i gerddoriaeth, dangos eich doniau, sgetsys , stori a sain ac hefyd y ddeuawd doniol.
“Yn amlwg maen nhw’n boblogaidd tu hwnt gyda’r gynulleidfa ond cystadleuwyr hefyd.
“Mae’n braf medru gwneud pethe ysgafn, a denu pobl ifanc sydd ddim yn draddodiadol yn cystadlu mewn eisteddfodau.
“Efallai byddwch chi byth yn gweld nhw ar lwyfan, byth yn gweld nhw yn ‘Steddfod yr Urdd ond ma’ nhw’n dangos eu doniau nhw ar lwyfan y ffermwyr ifanc."
Awyrgylch Gymraeg
Un o uchafbwyntiau’r dydd fydd y seremoni coroni a chadeirio.

Dywedodd Ms Jones bod yr eisteddfodau yn “tyfu o nerth i nerth a nid oes problem cael pobl i gystadlu".
“Mae’n bwysig bod ni yn cadw fynd, ffordd i ddenu pobl i fynd i gystadlu mewn ‘Steddfodau lleol, yr Urdd neu’r Genedlaethol," meddai.
“Yn enwedig yn y Gadair a’r Goron – mae’r safon yn uchel dros ben felly y gobaith yw rhoi’r hyder iddyn nhw fynd ati i gystadlu mewn 'steddfodau eraill hefyd.
Mae'r Eisteddfod yn un ddwy-ieithog gyda pherfformwyr yn cystadlu trwy’r Gymraeg a’r Saesneg.
Yn ôl y Prif Weithredwr, mae hwn yn gyfle i ddenu siroedd a dangos diwylliant Cymraeg.
“Mae’r ‘Steddfod yn holl bwysig – o ran yr iaith Gymraeg er bod ni’n denu dysgwyr ac aelodau uniaith Saesneg ma dal, ma’r awyrgylch o ddiwylliant Cymraeg yn gryf iawn.
“Y naws Gymraeg yna - sy'n denu rhai sydd ddim fel arfer yn mynd i ‘Steddfod,” meddai.
Prif Lun: Eisteddfod Ffermwyr Ifanc Cymru 2022