
Actores Pobol y Cwm yn siarad yn gyhoeddus am gael ei cham-drin yn rhywiol yn blentyn
Actores Pobol y Cwm yn siarad yn gyhoeddus am gael ei cham-drin yn rhywiol yn blentyn
“O ni methu delio… o ni dan straen,” meddai actores Pobol y Cwm, Sera Cracroft, wrth iddi siarad yn gyhoeddus am y tro cyntaf am ei phrofiad o ddioddef ymosodiad rhywiol yn blentyn.
Yn wyneb cyfarwydd i wylwyr S4C, mae’r actores sy'n chwarae rhan Eileen yng nghyfres Pobol y Cwm bellach wedi penderfynu siarad yn gyhoeddus am ei phrofiad, er mwyn ceisio helpu eraill mewn sefyllfa debyg.
Daw wedi iddi gadw’r digwyddiad yn gyfrinachol am ddegawdau, meddai, gyda hynny yn cael effaith difrifol ar ei hiechyd meddwl.
Mewn cyfweliad arbennig gyda Elin Fflur ar gyfer y rhaglen "Sgwrs Dan y Lloer", dywedodd: “Nes i rioed sôn am y cam-drin rhywiol, erioed tan o ni bron yn ganol oed.
“Ond o ni yn cael flashbacks ofnadwy, a dychryn ac o ni yn blentyn nerfus iawn.
“O ni methu delio â hyn. O ni dan straen.
“Oedd fy ngŵr wedi bod yn sâl yn gorfforol a ges i niwmonia, oedd fy merch ieuengaf yn dioddef gyda’r cyflwr sydd arni,” ychwanegodd.

Pwysau
Roedd cadw’n dawel yn rhoi pwysau sylweddol arni, meddai, a blynyddoedd ar ôl yr ymosodiad fe ddechreuodd feddwl am hunanladdiad.
Ond fe ddaeth cwlwm Sera Cracroft â’i theulu â hi’n ôl o’r dibyn: “Nes i jest feddwl amdan y plant, amdanyn nhw pan oedden nhw yn blant bach.
“Dwi’n cofio un nyrs yn dweud wrtha i, ‘there isn’t one child I’ve spoken to who would think their life better without their mother’”.
Penderfynodd Sera Cracroft siarad yn agored am ei phrofiad:
“Dwi’n cofio o ni yn teimlo fy mod i yn mygu.
“Nes i frathu ei law o a sgrechian am Mam. A wedyn dwi yn cofio poen anferthol yn fy mraich i hefyd,” meddai.
“Sbio ar y person yma a gwybod bod o wedi dychryn bo fi wedi sgrechian. Oedd o yn gafael yn fy mraich i a wnaeth o droi allan bod o wedi fracturo fy mraich i.”

‘Cymorth’
Mae’r actores bellach wedi derbyn triniaeth seiciatrig i fynd i’r afael â’i thrawma.
“Dwi wedi cael lot o gwnsela, a ma hynna wedi bod yn help. Dwi wedi gwneud ffrindiau gyda pobol, a ma nhw wedi cysylltu â fi am iechyd meddwl."
Mae ganddi bellach rwydwaith cymorth cryf gan gynnwys cyn-gôl-geidwad Cymru ac Everton, Neville Southall, sy’n eiriolwr dros wasanaethau iechyd meddwl.
Dywed Sera: “Rŵan dwi mewn lle da.”
Bydd rhaglen Sgwrs Dan y Lloer gyda Sera Cracroft ar S4C am 20.00 nos Lun, ac fe fydd ar gael i wylio ar S4C Clic a BBC iPlayer.