Gwaith dur TATA: Undebau yn cynnig cynllun all arbed 'miloedd' o swyddi
Mae undebau wedi cynnig “cynllun gwahanol” i gwmni dur Tata er mwyn ceisio arbed swyddi.
Daw ymysg pryderon bydd oddeutu 3,000 o bobl yn colli eu swyddi ar safle gwaith dur Port Talbot, fel rhan o gynlluniau i “ddatgarboneiddio’r” gwaith.
Ond mae undebau bellach wedi cynnig cynllun ddydd Gwener, all "arbed miloedd o swyddi".
Dywedodd Charlotte Brumpton-Childs, sef swyddog cenedlaethol yr undeb GMB, yr oedd undebau eisoes yn gwybod nad oedd cynlluniau Tata yn rhai “credadwy".
“Mae undebau eisoes wedi dweud nad yw cynlluniau Tata yn realistig – ‘dyn ni’n gobeithio eu bod nhw’n dechrau cydnabod hynny hefyd.
“Mae’r cynllun amgen a ddatblygwyd gan gwmni Syndex yn gredadwy, yn ymarferol a bydd yn galluogi gwaith creu dur yn ne Cymru sydd wedi’i ddatgarboneiddio.
“Mae angen i Tata, y llywodraeth ac undebau i gydweithio er mwyn sicrhau y caiff hyn ei weithredu,” meddai.
Mewn ymateb dywedodd llefarydd ar ran gwaith dur Tata: “Mae Tata a’r rheiny sy’n cynrychioli ein gweithwyr, yn ogystal â llywodraethau’r DU a Chymru i gyd wedi ymrwymo i drawsnewid gwaith dur i fod yn wyrdd yn y DU.
“Rydym yn croesawu’r cyfle i drafod adroddiad Pwyllgor Dur y DU a’r dadansoddiad annibynnol y bydd yn ei gynnig.
“Rydym am ystyried yn lawn cyn cychwyn ar ymgynghoriad ffurfiol gyda’n cynrychiolwyr a byddwn yn sicrhau bod y trafodaethau yma yn dryloyw, cynhyrchiol ac yn cael eu cynnal mewn ffordd ystyrlon,” meddai.