Newyddion S4C

'Tabŵ' yn dal i fod ynghylch canser y ceilliau

17/11/2023

'Tabŵ' yn dal i fod ynghylch canser y ceilliau

Canu'r gloch i nodi diwedd triniaeth yn Ysbyty Felindre, Caerdydd rhai wythnosau'n ôl.

Mae Iwan Williams, sy'n drideg pedwar yn dechrau gwella ar ôl cael canser y ceilliau. A hynny am yr eilwaith.

Ges i'r diagnosis cynta pan o'n i'n yn yr ysgol, yn y chweched. Wnes i briodi jyst dros flwyddyn yn ôl. Ethon ni bant am ein mis mel ym mis Mawrth eleni. Mwy neu lai, tua mis ar ôl dod nôl, ffeindiais i lwmp arall yn y caill arall.

Ges i'r sgan fel y tro cynta a troi mas taw canser oedd e unwaith 'to. Oedd hwnna yn sioc lot mwy o sioc y tro hyn, fi'n credu.

Ac Iwan yn dweud ei fod wedi teimlo'n isel.

Meddwl am apwyntiad ar ôl apwyntiad. Oce, be sy nesa? O'n i'n poeni am yr effaith oedd e'n mynd i gael ar fy ngwraig i. Pam ti'n colli'r ail gaill, mae problemau ynglŷn a ffrwythlondeb a'r gobeithion o gael plant.

Mae 'di bod yn anodd iawn. O'n i ddim yn gweld diwedd i'r peth. O'n i'n teimlo wedi blino o hyd. O'n i ddim yn gweld pryd oedd e'n mynd i ddod i ben. Dw i yn ystyried defnyddio gwasanaethau cwnsela trwy Felindre.

Roedd Iwan yn hunan archwilio'i geilliau'n aml a dyna'r cyngor meddygol.

Yr hyn sy'n bwysig ydy, os ni'n dal y cancr yn gynnar mae'r prognosis yn llawer gwell.

Wrth archwilio, bydden i'n defnyddio'r bawd a dau fys a rhoi'r bawd o flaen y caill a'r ddau fys y tu ôl i'r caill a rolio'r caill rhwng y bysedd yn archwilio'r arwynebedd i wneud yn siŵr nad oes unrhyw newidiadau.

Mae Cynghrair Canser Cymru, grŵp o elusennau yn dweud bod lle i wneud mwy i roi hyder i bobl siarad yn agored.

Mis Hydref, gafon ni Breast Cancer Awareness month.

Mae pawb yn nabod y mis yma, Movember, ym mis Tachwedd. Mae Movember yn ymgyrch hollol bwysig i ddynion. Mae wedi agor i fyny o ganser y prostate... ..ac mae rwan yn son am ganser y ceilliau a hefyd iechyd meddwl dynion.

A dyna pam fod Iwan yn rhannu ei stori gan obeithio annog eraill i siarad. Mae e'n hynod o bwysig bod ni'n siarad amdano fe.

Mae taboo mawr o amgylch y pwnc. 'Sdim ishe cywilydd.

Wrth aros am ei ganlyniadau cyn y Nadolig mae 'na bryder yn parhau iddo a'i wraig Cat.

Ond er y flwyddyn anodd ar ôl priodi'r llynedd mae'r ddau yn ceisio cadw'n bositif wrth edrych 'mlaen at eu pennod nesa.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.