Cynllun i adnewyddu Marchnad Ganolog Caerdydd i ddechrau'r haf nesaf
Mae cynllun adnewyddu Marchnad Ganolog Caerdydd bellach wedi'i ariannu'n llawn, gyda disgwyl i'r gwaith adnewyddu ddechrau yn haf 2024.
Daw hyn ar ôl i Gyngor Caerdydd lwyddo i sicrhau £3.1 miliwn tuag at y prosiect o raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru yn ogystal a grant o £2.1 miliwn gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol.
Bydd gweddill y gwaith adnewyddu yn cael ei ariannu drwy'r Gronfa Ffyniant Gyffredin a buddsoddiad uniongyrchol gan y Cyngor.
Bydd cyfanswm o tua £6.5 miliwn yn cael ei fuddsoddi i warchod, cadw a diogelu'r farchnad Fictoraidd Restredig Gradd II* 130 oed i'r dyfodol medd y cyngor.
Dywedodd y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd y Cyngor: "Mae cadarnhau'r cyllid hwn gan Lywodraeth Cymru yn newyddion gwych.
“Mae'r Farchnad yn un o adeiladau treftadaeth pwysicaf Caerdydd, yn ogystal â gofod hanfodol yng nghanol y ddinas ar gyfer masnachwyr bach annibynnol.
"Bydd unrhyw un sydd wedi ymweld yn ystod y blynyddoedd diwethaf yn gwybod ei fod yn lle arbennig, gydag awyrgylch unigryw wedi ei gwreiddio mewn 130 mlynedd o hanes.
"Bydd ein cynlluniau adnewyddu yn cadw ac yn diogelu'r hanes hwnnw ac yn sicrhau y bydd yr adeilad, yr ydym i gyd yn ei hadnabod ac yn ei charu, yn parhau i fod yn galon brysur i'r ddinas am flynyddoedd lawer i ddod."
Mae rhai stondinwyr ym marchnad Caerdydd eisioes wedi rhannu eu pryderon am effaith posib cynlluniau'r cyngor i adnewyddu’r adeilad hanesyddol.
Bydd y gwaith adfer yn cynnwys datgelu nodweddion dylunio gwreiddiol yr adeilad, adfer y mynedfeydd traddodiadol a'r stondinau gwreiddiol, trwsio'r to gwydr eiconig a gwella'r system ddraenio Fictoraidd.
Fe fydd yna ardal fwyta hefyd, gyda lle i 70 o seddi. O ganlyniad bydd rhai masnachwyr yn cael eu hadleoli o fewn y Farchnad, yn ôl y Cyngor.
Inline Tweet: https://twitter.com/cyngorcaerdydd/status/1725182646492258738
Dwedodd Julie James, Gweinidog Llywodraeth Cymru dros Newid yn yr Hinsawdd: "Rydym am i ganol trefi a dinasoedd ledled Cymru fod yn galon i gymunedau Cymru, lle gall pobl fanteisio ar wasanaethau, siopau, mannau cymunedol a diwylliannol.
"Mae Marchnad Caerdydd yn ased hanfodol sy'n ychwanegu'n sylweddol at brofiad siopa, profiad ymwelwyr a phrofiad diwylliannol y rhanbarth ac mae ganddi rôl allweddol i'w chwarae yn hyrwyddo niferoedd yr ymwelwyr a chefnogi economi ehangach canol y ddinas.
“Bydd y prosiect hefyd yn cyfrannu at ein nodau datgarboneiddio trwy wella'r effeithlonrwydd ynni a chynyddu'r cyflenwad ynni adnewyddadwy trwy baneli solar."
Bydd gwaith atgyweirio hefyd yn cael ei wneud i gloc H.Samuel y farchnad, bydd y 'llawr ffug' a osodwyd ochr mynedfa Heol y Drindod yn y 1960au yn cael ei dynnu, ac ystafell weithgareddau ac addysg newydd yn cael ei chyflwyno.