Amy Dowden yn tynnu allan o berfformiad Strictly Come Dancing wedi iddi dorri ei throed
Mae seren Strictly Come Dancing, Amy Dowden, wedi cael ei gorfodi i dynnu allan o berfformio ar y rhaglen ar ôl torri ei throed.
Roedd disgwyl i’r ddawnswraig o Gaerffili berfformio ar y haglen nos Sadwrn, sy’n cael ei ddarlledu o neuadd ddawns Blackpool.
Nid yw Ms Dowden wedi bod yn rhan o’r gyfres eleni wedi iddi dderbyn diagnosis o ganser y fron ym mis Ebrill a thriniaeth ers hynny.
Mewn llun a rannwyd ar ei chyfrif Instagram, dywedodd Amy: "Nid yr wythnos roeddwn i'n gobeithio amdani ers gorffen chemo.
"Rwyf nawr mewn esgid fawr ar ôl torri asgwrn yn fy nhroed.
"Mae'n hollol dorcalonnus gan fod hyn yn golygu nad yw’r cynlluniau i mi ddawnsio yn y Strictly Ballroom eleni bellach yn bosibl.
"Dyma sydd wedi fy nghadw i fynd dros y misoedd diwethaf.
"Yn sicr nid 2023 yw fy mlwyddyn, ymlaen at 2024 dwi'n ddweud!"
Cafodd Ms Dowden ddiagnosis o ganser y fron cam 3 ar ôl iddi ddarganfod lwmp nôl ym mis Ebrill.
Ar ôl cael mastectomi, dywedwyd wrthi fod y tiwmorau wedi lledu ac fe gafwyd hyd i fath arall o ganser.
Mae hi wedi bod yn rhannu lluniau o'r driniaeth ar y cyfryngau cymdeithasol i geisio codi ymwybyddiaeth i eraill.
Cyhoeddodd Ms Dowden ei bod hi wedi derbyn ei thriniaeth olaf o gemotherapi ddydd Iau diwethaf.