Newyddion S4C

Prosiectau'r Gronfa Ffyniant Bro yn 'annhebygol' o gael eu cyflawni ar amser

17/11/2023
ffyniant bro

Mae prosiectau'r Gronfa Ffyniant Bro (Levelling Up), Llywodraeth y DU yn annhebygol o gael eu gorffen ar amser, yn ôl y Swyddfa Archwilio Genedlaethol. 

Yn ôl adolygiad o dair cronfa sy’n darparu cyfanswm o £9.5 biliwn, mae costau cynyddol, prinder sgiliau ac oedi wrth wneud penderfyniadau yn golygu bod awdurdodau lleol yn ei chael yn anodd i gyflawni’r prosiectau ar amser.

Mae arbenigwyr wedi disgrifio’r adroddiad newydd fel un “damniol”.

Mae 11 prosiect yng Nghymru yn derbyn grantiau o Gronfa Ffyniant Bro. 

Ymhlith y prosiectau mae datblygu campws peirianneg ym Mlaenau Gwent, a llwybrau beicio newydd drwy Ddyffryn Conwy.

Roedd yr adolygiad yn edrych ar brosiectau sydd wedi’u cefnogi gan y Gronfa Trefi, y Gronfa Ffyniant Bro a Chronfa Ffyniant Gyffredin y DU. 

O'r 1,300 o brosiectau sydd wedi’u cefnogi gan y Gronfa Trefi a’r Gronfa Ffyniant Bro, dim ond 64 sydd wedi'u cwblhau ac nid oedd 76 wedi dechrau eto.

Mae’r Swyddfa Archwilio Genedlaethol yn dweud bod y terfynau amser gwreiddiol a osodwyd gan yr Yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau yn “annhebygol o gael eu bodloni”.

Damniol

Yn ôl y corff gwarchod, nid oedd 50% o’r prif gytundebau adeiladu wedi’u llofnodi ar gyfer prosiectau’r Gronfa Ffyniant Bro hyd yma.

Roedd y prosiectau yma i fod i gael eu cwblhau erbyn mis Mawrth 2024. 

Nid oedd y rhan fwyaf o'r arian a ddarparwyd i'r prosiectau wedi'i wario chwaith, medd y corff gwarchod.

Mae dadansoddiad yr archwilwyr yn datgelu mai dim ond 14% o’r £1.6 biliwn a ddyrannwyd yn rownd gyntaf y Gronfa Ffyniant Bro ym mis Hydref 2021 oedd wedi’i wario erbyn mis Mawrth eleni. 

Yn ôl David Pendlebury, o’r New Economics Foundation: “Mae’r adroddiad hwn yn ddamniol ac yn dangos popeth sydd o’i le ar y ffordd y mae Whitehall yn gweithio – neu’n gwrthod gweithio – gyda chymunedau.

“Mae diffyg ymddiriedaeth y Llywodraeth mewn awdurdodau lleol wedi arwain at ddull hynod ddryslyd.”

Oedi

Mae'r Swyddfa Archwilio Genedlaethol yn  dweud bod amrywiaeth o ffactorau yn gyfrifol am yr oedi. 

Mae rhain yn cynnwys chwyddiant, prinder sgiliau yn y sector adeiladu, ac oedi wrth wneud penderfyniadau.

Dywedodd Gareth Davies, pennaeth y Swyddfa Archwilio Genedlaethol: “Mae Yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau mewn gwell sefyllfa i ddeall y buddion y mae’r cronfeydd hyn yn eu darparu yn dilyn gwelliannau sylweddol yn ei dull gwerthuso. 

“Ond bydd angen i'r adran a'r awdurdodau lleol weithio gyda'i gilydd i ddadflocio prosiectau sydd wedi'u hoedi neu sydd heb eu cychwyn a gosod disgwyliadau realistig ar gyfer cyflawni.

Dywedodd llefarydd ar ran Yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau: “Mae ffigyrau’r adroddiad yma wedi dyddio. 

“Yn yr wyth mis ers mis Mawrth, mae Yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau wedi talu dros £1.5 biliwn o gyllid pellach i awdurdodau lleol. 

“Rydym yn parhau i weithio'n agos gydag awdurdodau lleol i gefnogi'r gwaith o gyflawni eu prosiectau hanfodol.

“Rydym wedi ymrwymo £13 biliwn i lefelu i fyny, cefnogi prosiectau i wella bywyd bob dydd i bobl ledled y DU, adfywio canol trefi a strydoedd mawr, trafnidiaeth leol ac asedau diwylliannol a threftadaeth.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.