Newyddion S4C

Parc Cenedlaethol Eryri i ddefnyddio rhestr o enwau Cymraeg safonol ar lynnoedd

15/11/2023
bochlwyd.png

Bydd rhestr enwau Cymraeg safonol ar lynnoedd yn Eryri yn cael ei ddefnyddio gan barc cenedlaethol yr ardal o hyn allan.

Cafodd y penderfyniad i ddefnyddio rhestr swyddogol o enwau Cymraeg ar y llynnoedd ei gymeradwyo mewn cyfarfod o Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri ddydd Mercher.

Y bwriad fydd edrych nesaf ar enwau rhaeadrau, mynyddoedd a nentydd yn ardal y Parc yn y dyfodol.

Mae'r rhestr enwau safonol gan Banel Safoni Enwau Lleoedd Comisiynydd y Gymraeg yn ymdrech i 'hyrwyddo'r enw Cymraeg gwreiddiol ac annog pobl i'w ddefnyddio yn hytrach na'r cyfieithiad Saesneg'.

Mae sawl enw llyn yn Eryri wedi cael eu hadnabod gan rai yn ddiweddar yn ôl eu henwau Saesneg, yn eu plith Bearded Lake yn hytrach na Llyn Barfog, ac Australia Lake yn hytrach na Llyn Bochlwyd. 

Yn ôl y panel, enwau Cymraeg yn unig sydd gan fwyafrif y llynnoedd yn Eryri, ond bod ambell eithriad fel Beareded Lake ac Australia Lake sydd yn cael eu defnyddio ar lafar ar adegau. 

Mewn argymhelliad gan Banel Safoni Enwau Lleoedd Comisiynydd y Gymraeg, maent yn dweud mai mater i'r Parc oedd penderfynu os oeddynt am gydnabod yr enw Saesneg o gwbl, ond os byddant yn gwneud hyn, gallant 'roi'r enw Saesneg mewn cromfach ar ôl yr enw Cymraeg er enghraifft.'

Mae Llyn Tegid yn enghraifft arall o'r enw Saesneg yn cael ei arddel ar adegau, sef Bala Lake. 

Dywed Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri fod swyddogion yr Awdurdod, Prifysgol Caerdydd a Chomisiynydd yr Iaith yn cydweithio ar brosiect safoni enwau nodweddion tirweddol yn Eryri ers Medi 2021.

"Prif waith Pwyllgor Safoni Enwau Lleoedd Comisiynydd yr Iaith yw safoni enwau aneddiadau yng Nghymru ond yn sgil diddordeb cynyddol a thrafodaeth am enwau lleoedd tirweddol yn y wasg, penderfynwyd cynnal prosiect peilot i safoni enwau tirweddol ym Mharc Cenedlaethol Eryri," meddai'r Awdurdod.

"Mae miloedd o enwau lleoedd yn Eryri a bydd safoni’r cyfan yn cymryd blynyddoedd. Penderfynwyd safoni enwau mesul nodwedd tirweddol, gan ddechrau gyda llynnoedd Eryri."

Mae Panel Safoni Enwau Lleoedd Comisiynydd y Gymraeg yn cydnabod y gall 'tyndra godi ar brydiau rhwng yr awydd i hyrwyddo enwau Cymraeg a gwaith y panel yn argymell ffurfiau safonol enwau lleoedd.'

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.