Lluoedd Israel yn bresennol ym mhrif ysbyty Gaza
Mae lluoedd Israel yn dweud eu bod wedi dechrau ymgyrch yn erbyn Hamas ym mhrif ysbyty Gaza.
Disgrifiodd yr IDF yr ymgyrch fel un 'wedi ei thargedu' ac o fewn 'ardal benodol' yn ysbyty Al-Shifa.
Mae'r IDF wedi galw ar holl aelodau Hamas sydd yn bresennol yn yr ysbyty i ildio ar unwaith.
Mewn datganiad ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd yr IDF: "Dros yr wythnosau diweddar, mae'r IDF wedi rhybuddio yn gyhoeddus dro ar ôl tro fod defnydd milwrol parhaus Hamas o'r ysbyty yn peryglu ei statws gwarchodedig o dan gyfraith ryngwladol.
"Ddydd Mawrth, dywedodd yr IDF wrth yr holl awdurodau priodol yn Gaza unwaith eto fod angen i'r holl weithgareddau milwrol ddod i ben yn yr ysbyty o fewn 12 awr.
"Yn anffodus, wnaethon nhw ddim."
Daw hyn wedi i UDA honni fod ganddynt dystiolaeth fod Hamas yn defnyddio ysbyty Al-Shifa er mwyn gweithredu gweithgareddau milwrol.
Fe wnaeth Hamas ymateb i hyn drwy ei 'gondemnio'n gryf a gwrthod yr honiadau'.
Tra bod degau ar filoedd o bobl wedi ffoi o'r ysbyty, yn ôl amcangyfrifon ddydd Mawrth mae tua 650 o gleifion a 500 o staff yn parhau yno, ynghyd â thua 2,500 o Balesteiniaid sydd wedi gorfod gadael eu cartrefi.