Braverman yn bytheirio wedi ei diswyddiad o'r Swyddfa Gartref

Braverman yn bytheirio wedi ei diswyddiad o'r Swyddfa Gartref

Mewn beirniadaeth ddi flewyn ar dafod, mae Suella Braverman wedi dweud fod y Prif Weinidog Rishi Sunak yn "wan" a'i fod yn "bradychu" ei addewidion ei hun. 

Ddiwrnod wedi iddi gael ei diswyddo fel Ysgrifennydd Cartref, rhybuddio fod amser yn prinhau ar gyfer y Ceidwadwyr, gan gyhuddo Rishi Sunak o fod yn "ansicr" ac nad oes ganddo'r gallu i arwain. Ychwanegodd fod angen newid llwybr ar frys.   

Yn ei llythyr mae Mrs Braverman yn dweud nad yw'r Prif Weinidog wedi gweithredu ar rai o brif addewidion y blaid.

Ychwanegodd ei fod wedi dibynnu ar "feddwl yn llawn hud a lledrith" yn hytrach na bod yn barod i  wneud "be bynnag sydd ei angen" er mwyn atal cychod bychain rhag croesi'r Sianel. 

Cafodd Suella Braverman ei diswyddo gan Rishi Sunak mewn gwlad ffĂ´n fore Llun, ac wedi hynny, fe ad-drefnodd ei gabinet gan wahodd y cyn Brif Weinidog David Cameron yn Ă´l i'r llywodraeth fel Ysgrifennydd Tramor. 

Roedd yr Arglwydd Cameron yn ôl o amgylch bwrdd y Cabinet ddydd Mawrth am y tro cyntaf ers iddo ymddiswyddo fel prif weinidog a rhoi’r gorau i fod yn AS ar ôl colli refferendwm Brexit yn 2016.

Cyfaddefodd nad oedd dychwelyd yn y fath ddull yn “arferol” ond dywedodd ei fod eisiau cefnogi Mr Sunak trwy “swydd anodd ar amser caled”.

Dywedodd y cyn aelod seneddol Ceidwadol Guto Bebb wrth raglen Newyddion S4C fod penodiad yr Arglwydd Cameron yn syndod ond nid yn gwbwl annisgwyl. 

“Dio’m y tro cyntaf i mi glywad sibrydion y bydda fo efo diddordeb bod yn gyfrifol am bolisi tramor Prydain, ag felly mae’n debyg i rywun cymharol ifanc fod y cyfle i gael cyfle arall mewn gwleidyddiaeth ddim yn beth drwg i gyd wedi’r cyfan," meddai.

“Dwi’n meddwl mewn amryw o wledydd dydy’r syniad o wleidydd sydd ‘di bod yn Brif Weinidog yn dod yn ôl i swydd arall o bwys ddim yn beth dieithr.

“Felly efalla’ fod o ddim yn ddrwg o beth bod gwleidyddiaeth Prydain falla’n ymdebygu fwy i gwleidyddiaeth Ewropeaiadd na ma’ ‘di neud ers tipyn."

 

 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.