Newyddion S4C

Cynlluniau ynni adnewyddadwy yn symud yn ei blaen

14/11/2023

Cynlluniau ynni adnewyddadwy yn symud yn ei blaen

Y paratoadau munud ola cyn mentro am y môr.

Mae'n daith 10km o borthladd Caergybi i'r safle newydd fydd yn gartref i un o gynlluniau ynni adnewyddadwy mwya Cymru.

Dyma'r dyfodol, ynni gwynt ac yma, oddi ar arfordir y gogledd y bwriad ydy codi hyd at 50 o dyrbinau newydd fydd a'r gallu i bweru hanner o gartrefi Cymru.

Mae cam nesa'r datblygiad yn hollbwysig. Dros y dyddiau nesa, mi fydd y llong yma yn teithio am yr arfordir. Fydd y coesau enfawr yma yn cael eu tyllu i wely'r môr ac o hynny, mae modd dechrau gwaith asesu i weld lle yn union fydd y tyrbinau yn cael eu codi.

Mae'n gam i'r cyfeiriad cywir wrth gyrraedd targedau sero net ond addewid hefyd o gannoedd o swyddi. Swyddi sydd eisoes wedi dechrau.

Mae'n bwysig i fi i fyw'n lleol a gweithio'n lleol. Does dim llawr o gyfle i gael swyddi fel hyn. Mae'n grêt cael y cyfle i fod adre i weithio ar y tyrbinau. Mae'n swydd weddol gymhleth.

O le ddoth yr awydd i weithio yn y maes yma? Gwersi ffiseg yn yr ysgol yn dysgu am dyrbinau gwynt ac ever since, ie.

Mae cwmni RWE sy'n gyfrifol am y cynllun yn dweud y daw cannoedd o swyddi tebyg i rai Jordan. Gyda'r cynllun gwreiddiol wedi dod i fodolaeth nôl yn 2017 a dim disgwyl i'r tyrbinau hyn fod a'r gallu i greu ynni tan 2030 mae poeni bod y gwaith o gymeradwyo cynlluniau ynni mawr yn cymryd lot rhy hir.

We would advocate the government looking at ways that they can speed that up. I think with all things, it's a balance between making sure the planning applications are robust and the right amount of consultation and balancing that out with the need of the climate emergency.

Nid ar chwarae bach mae codi cynllun môr sylweddol fydd ag effaith mawr ar dirlun yr arfordir. Y ceblau yn dod i mewn ar hyd gwely'r môr i mewn i Brestatyn ac ar y tir yn mynd drwadd i Fodelwyddan.

Ond mae yna gytuno ar draws y sector fod angen cyflymu'r broses. Rhaid i ni gyflymu'r gosodiadau yma. Ac hefyd, dw i'n meddwl amlhau y mathau o ynni adnewyddol 'dan ni'n eu defnyddio.

Mae cynllunio yn mynd i arafu y broses a ffeindio'r balans yn bwysig iawn. Mi fysa ffeindio'r balans yn gynt rhwng yr amgylchedd a'r angen ynni yn braf iawn i weld.

Yn ôl Llywodraeth Prydain, mae darn o waith ar y gweill er mwyn cyflymu'r broses a bydd hynny'n cael ei gyhoeddi'n fuan. Mae Llywodraeth Cymru yn dweud y bydd eu deddf isadeiledd newydd yn symleiddio'r broses.

Nes y bydd ynni yn cael ei greu yma mae cefnogwyr yn mynnu fydd yr effaith yn un sylweddol.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.