Newyddion S4C

Ysgol yn rhoi teyrnged wedi i bump o bobl farw wedi tân mewn tŷ yn Llundain

14/11/2023
teyrnged tan llundain.png

Mae ysgol wedi rhoi teyrnged i bump o bobl a fu farw wedi tân mewn tŷ yng ngorllewin Llundain nos Sul. 

Roedd tri o blant ymhith y rhai a fu farw, a'r gred yw bod y pump yn aelodau o'r un teulu. 

Yn ôl adroddiadau yn lleol, Aroen Kishen a'i wraig Seema oedd enwau'r oedolion, a Riyan, Shanaya ac Arohi oedd enwau'r plant a oedd yn byw yn y tŷ.

Mewn teyrnged gan ysgol y plant, dywedodd cyd-ddisgyblion Riyan ym mlwyddyn 6 eu bod wedi bod yn "crio drwy'r dydd heddiw ac yn dy fethu."

Gadawodd un dyn, sef Mr Kishen yn honedig, y cartref cyn i'r gwasanaethau brys gyrraedd cyn cael ei gludo i'r ysbyty yn ddiweddarach gydag anafiadau nad oedd yn peryglu bywyd. 

Mae un person yn parhau ar goll. 

Cafodd blodau eu gosod mewn teyrnged i'r plant ger y tŷ ddydd Mawrth ar ran Ysgol Springwell yn Hounslow. 

Mae Heddlu'r Met wedi dweud eu bod yn ymchwilio i achos y tân. Does neb wedi ei arestio hyd yma. 

Dywedodd trigolion lleol eu bod wedi gweld mwg nos Sul ond nad oeddent yn sicr a oedd hyn yn gysylltiedig â dathliadau Diwali. 

Wrth siarad mewn cynhadledd i'r wasg ddydd Llun, gofynwyd i'r Prif Uwcharolygydd Sean Wilson a oedd modd diystyru tân gwyllt fel achosi posibl y tân.

Dywedodd Mr Wilson: "Ar hyn o bryd, rydym ni a swyddogion tân arbenigol yn ymchwilio i hynny. 

"Dydw i ddim yn diystyru unrhyw beth. Dwi ddim yn credu ein bod ni mewn sefyllfa i wneud hynny. 

"Rydym yn cadw meddwl agored. Mae'n gyfnod mor gynnar ac mae yna dipyn o waith i'w wneud cyn hynny."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.