Newyddion S4C

Llywodraeth Cymru 'heb gael manylion' am gynllun hybu twristiaeth Llywodraeth y DU

ITV Cymru 11/06/2021
Trenau

Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi cynllun newydd i helpu’r sector twristiaeth i adfer wedi’r pandemig.

Mae’r cynllun yn anelu at gefnogi twristiaeth ddomestig i ddychwelyd at lefelau cyn y pandemig erbyn 2022, a hynny trwy gynllun talebau ar gyfer atyniadau domestig a thocyn trên newydd.

Ond dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod “heb dderbyn unrhyw arwydd o sut mae Cynllun Adfer Twristiaeth Llywodraeth y DU yn berthnasol i Gymru,” er ei bod yn croesawu’r cynllun.

“Mae Llywodraeth Cymru wedi cydweithio gyda’r sector ar sut y byddwn ni’n siapio dyfodol yr economi ymwelwyr yng Nghymru.”

“Fe wnawn ni weithio gyda phartneriaid i ddeall unrhyw ymyriadau yn y dyfodol i gefnogi adferiad y sector ar hyd y DU.”

Bydd y Loteri Genedlaethol yn lansio cynllun talebau gwerth £10 miliwn yn yr hydref er mwyn annog teithio tu hwnt i’r haf. Bydd chwaraewyr yn gallu ennill talebau ar gyfer atyniadau ar hyd y DU rhwng mis Medi 2021 a mis Mawrth 2022.

Bydd tocyn trên arbennig hefyd yn cael ei lansio yn hwyrach eleni er mwyn rhoi’r cyfle i bobl deithio o fewn y DU mewn ffordd haws a mwy gwyrdd, wedi ei seilio ar y tocyn ‘BritRail’ presennol ar gyfer teithwyr rhyngwladol.

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru Simon Hart AS: “Mae gan Gymru gymaint i’w gynnig i ymwelwyr, ac mae twristiaeth yn allweddol i’n heconomi.

“Mae’r mesurau gafodd eu cyhoeddi heddiw sydd yn berthnasol i Gymru yn dangos fod Llywodraeth y DU yn darparu ar gyfer un o’r sectorau sydd wedi dioddef fwyaf.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.