Newyddion S4C

Chwe grŵp o wirfoddolwyr o Gymru i gael eu hanrhydeddu gan y Brenin Charles

14/11/2023
Pwyllgor Pwll Nofio Lee Gardens

Mae chwe sefydliad Cymreig wedi cael eu dewis fel enillwyr Gwobr y Brenin am Wasanaethau Gwirfoddol eleni. 

Mae’r wobr yn gyfatebol i wobr MBE, a dyma'r anrhydedd uchaf o'i bath i grwpiau gwirfoddol am eu gwasanaethau cymunedol “rhagorol.” 

Ymhlith yr enillwyr eleni mai’r grŵp theatr Opera Ieuenctid Caerfyrddin a'r Cylch, yn ogystal â’r sefydliad gofal Dydd Y Waen, sy’n helpu darparu cymorth i bobl ledled Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Chonwy. 

Mae’r elusen Cynon Valley PALS,hefyd wedi’i chydnabod am ei hymdrechion wrth gynnal gwasanaethau hamdden i blant ag anableddau yn Rhondda Cynon Taf, tra bod Canolfan Abertawe i Bobl Fyddar wedi ei chanmol am ei gwaith wrth fynd i’r afael ag unigrwydd ymysg pobl fyddar yn ne Cymru. 

Mae grŵp o wirfoddolwyr Parc Bishop, sy’n perfformio gwaith cynnal a chadw ar safle hanesyddol hefyd wedi eu henwi’n fel enillwyr eleni – a hynny ar y cyd gyda phwyllgor pwll nofio Lee Gardens ym Mhenriwceiber.

Dyma’r tro gyntaf i’r wobr gael ei rhoi yn enw'r Brenin, wedi iddo gael ei sefydlu yn 2002 i ddathlu Jiwbilî Aur y Frenhines Elizabeth II.

Dywedodd Syr Martyn Lewis CBE, sef Cadeirydd y gwobrau: “Mae’r enillwyr i gyd yn cyflawni gwaith anhunanol fel grwpiau o wirfoddolwyr sydd wedi ymrwymo i fynd i’r afael â phob math o faterion lleol ledled ein holl gymunedau. 

“Llongyfarchiadau mawr iddynt, ac yn llawer mwy na hynny, diolch am y cyfraniad amhrisiadwy y maent yn ei roi i’n cymdeithas.”

Cafodd chwe sefydliad eu hanrhydeddu yng Nghymru eleni, gyda 227 o Loegr, 20 o’r Alban a naw o Ogledd Iwerddon.

Prif lun o wirfoddolwyr Pwyllgor Pwll Nofio Lee Gardens

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.