Gerald Williams, ceidwad yr Ysgwrn, wedi marw yn 92 oed
Mae Gerald Williams MBE, gŵr a weithiodd drwy gydol ei oes i goffau enw ei ewythr Hedd Wyn, wedi marw yn 92 mlwydd oed.
Ganed Mr Williams MBE yn Yr Ysgwrn, Trawsfynydd ym 1929, yn nai i Hedd Wyn - y Prifardd Ellis Humphrey Evans.
Treuliodd ei oes yn ffermio’r Ysgwrn, gan addo "i gadw’r drws yn agored” ers 1954, gan groesawu ymwelwyr o bob cwr o'r byd i gartref un o feirdd enwocaf Cymru.
Er nad oedd Mr Williams MBE yn amaethu yn ystod blynyddoedd olaf ei fywyd, fe wnaeth lynnu at ei addewid a throsglwyddo'r adeilad i Barc Cenedlaethol Eryri yn 2012.
Dywedodd Naomi Jones, Pennaeth Treftadaeth Diwylliannol Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri: "Diolch i waith diflino Gerald a’r teulu, cadwyd y cof cenedlaethol o Hedd Wyn a’r genhedlaeth o Gymry ifanc a gollwyd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf yn fyw. Mae’r Ysgwrn yn gofeb heddychlon, diwylliannol a hynny’n glod yn wir i waith arbennig Gerald a’r teulu.
"Drwy ei gymeriad rhadlon, ei ffraethineb bachog a’i allu rhyfeddol i gyfathrebu gydag ymwelwyr o bob oed a chefndir, creodd Gerald brofiad ymwelwyr cwbl unigryw yn Yr Ysgwrn. Roedd o’n ymhyfrydu yng nghwmni pobl a byddai gweld plant a phobl ifanc yn ddiffael yn ymddiddori yn hanes ei ewythr wrth fodd ei galon."
Daeth newidiadau mawr i’r Ysgwrn rhwng 2012 a 2017 yn dilyn gwerthiant y fferm i'r parc.
"Bu Gerald yn rhan allweddol o’r gwaith hwn, yn cadw llygad barcud ar bob agwedd o’r gwaith, yn cynnig cyngor craff a sicrhau na chollwyd naws arbennig “yr hen dŷ”. Yn wir, “cartref, nid amgueddfa” oedd ei arwyddair a bûm yn ffodus fel Awdurdod o’i gymorth a’i gefnogaeth parod ar hyd y blynyddoedd," ychwanegodd Ms Jones.
"Gwnaeth Gerald Williams gyfraniad unigryw i ddiwylliant Cymru a braint oedd ei alw’n ffrind. Anfonwn ein cydymdeimlad diffuant at ei wraig Elsa, ei chwaer Malo a’r teulu cyfan yn eu profedigaeth."