Newyddion S4C

Costau byw: 95% o glybiau chwaraeon llawr gwlad yn 'pryderu am eu dyfodol'

14/11/2023
Clybiau llawr gwlad

Mae gwaith ymchwil newydd yn awgrymu fod y rhan fwyaf o glybiau chwaraeon ar lawr gwlad yng Nghymru bellach yn pryderu am eu dyfodol yn sgil yr argyfwng costau byw. 

Dywedodd 95% o glybiau yng Nghymru eu bod yn pryderu am effaith yr argyfwng costau byw o ran eu gallu i barhau i gynnal eu gwasanaethau er lles pobl ifanc. 

Daw’r ffigyrau gan yr elusen Sported gyda’r ymchwil yn nodi fod mwy o glybiau yng Nghymru yn pryderu am eu dyfodol o gymharu gyda chlybiau eraill yng ngweddill y DU. 

Dywedodd 55% o glybiau yng Nghymru eu bod wedi dioddef toriadau i’w cymorth ariannol yn ystod y chwe mis diwethaf, gydag oddeutu un o bob tri bellach ddim yn derbyn unrhyw gyllid gan awdurdodau lleol. 

Mae 53% o glybiau wedi wynebu cynnydd “sylweddol” i’w biliau, tra bod 39% ohonynt yn disgwyl cynnydd sylweddol mewn ffioedd er mwyn cynnal eu gwasanaethau yn ystod y misoedd nesaf, awgryma'r gwaith ymchwil.

‘Hollbwysig’

Dywedodd Jayne Penney o Brighter Futures, clwb chwaraeon yn Y Rhyl, bod clybiau llawr gwlad yn “hollbwysig” er lles iechyd meddwl a diogelwch pobl ifanc. 

Ond mae’r argyfwng costau byw yn effeithio ar bawb, meddai, gan gynnwys teuluoedd y bobl ifanc maent yn eu hymdrechu i 'w diogelu. 

“Rydym ni wedi cefnogi pobl ifanc sydd wedi bod yn pryderu am gael eu gwneud yn ddigartref… ac sydd hefyd yn pryderu am gael eu cymryd i mewn i gartrefi gofal gan na allai eu mam fforddio i edrych ar eu hôl. 

“Mae gan bobl ifanc lawer o gyfrifoldebau o oedran ifanc iawn ac maent yn colli allan ar fod yn ifanc oherwydd cyfrifoldebau dros eu brodyr a'u chwiorydd oherwydd bod eu rhieni’n gweithio, gan na allant fforddio talu am ofal plant."

Ychwanegodd: “Does dim arian ar gael ar gyfer unrhyw nwyddau neu weithgareddau ychwanegol. 

“Ni allant fforddio ymuno â chlybiau, talu ffioedd clybiau neu dalu am gitiau felly nid yw pobl ifanc yn cael mynediad at chwaraeon oherwydd costau."

Dywedodd Dirprwy Bennaeth elusen Sported, Tom Burstow, bod rhaid i awdurdodau lleol, yn ogystal â’r llywodraeth, wneud mwy i gefnogi clybiau llawr gwlad. 

“Nawr, yn fwy nag erioed, mae ‘na gyfle i’r llywodraeth yng Nghymru sylweddoli pwysigrwydd clybiau chwaraeon llawr gwlad yn ein cymunedau, a hynny ar lefel genedlaethol.”

Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i gefnogi clybiau chwaraeon ar lawr gwlad ledled Cymru drwy ein cyllid blynyddol i Chwaraeon Cymru.  

"Rydym hefyd wedi darparu £500,000 ychwanegol yn 2023-24 i gefnogi partneriaid Chwaraeon Cymru gyda phwysau costau byw a £8m o gyllid cyfalaf i'w fuddsoddi mewn cyfleusterau chwaraeon, gan gynnwys caeau glaswellt artiffisial."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.