Powys ar frig rhestr yr ardaloedd sydd wedi gweld cynnydd mewn prisiau tai
Mae prisiau tai mewn rhai ardaloedd yn y Deyrnas Unedig wedi parhau i godi yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, er bod y darlun ehangach yn dangos fod prisiau'n gostwng, meddai banc yr Halifax.
Powys sydd ar frig y rhestr lle mae gwerth tai wedi codi o holl ardaloedd y DU yn ôl y gwaith ymchwil y banc.
Cafodd yr ymchwil ei gynnal mewn mwy na 300 o ardaloedd yn ystod misoedd Gorffennaf, Awst a Medi 2023, gan gymharu'r cyfnod hwnnw â'r un union flwyddyn yn gynt.
Yn ôl yr Halifax , fe gododd prisiau tai mew mwy na 70 rhanbarth, ac roedd y twf ym Mhowys yn 17.4%.
Dwyrain Lindsey, yn Sir Lincoln yn Lloegr oedd yn ail ar y rhestr gyda thwf o 13.3%.
Yn drydydd ar y rhestr, roedd Moray yn Yr Alban, gyda chynnydd o 10.7 %.
Dywedodd Kim Kinnaird, cyfarwyddwr yn adran morgeisi'r Halifax: “Mae nifer o ffactorau sy'n medru effeithio ar brisiau tai mewn ardal benodol, o'r amrywiaeth o dai sydd ar gael, cynlluniau tai newydd, safon ysgolion a chyfleoedd gwaith.
“Roedd nifer o'r llefydd sydd ar frig ein rhestr yn ardaloedd gwledig a phrydferth.
"Mae'r ffactorau hynny yn parhau i fod yn ddeniadol ar gyfer darpar brynwyr."