Dyn 19 oed o Geredigion wedi marw mewn gwrthdrawiad yn Nhrefynwy
Mae Heddlu Gwent yn apelio am wybodaeth wedi i ddyn 19 oed o Geredigion farw mewn gwrthdrawiad yn Nhrefynwy ddydd Sul.
Mae dyn arall 19 oed o ardal Ceredigion wedi’i arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru’n beryglus a gyrru tra'r oedd dros y terfyn alcohol a chyffuriau.
Mewn datganiad, dywedodd y llu eu bod yn apelio am dystion ar ôl y gwrthdrawiad ar Heol Staunton yn y dref am tua 12:00 ddydd Sul.
Roedd y gwrthdrawiad yn ymwneud ag un car – Ford Fiesta lliw arian.
Cadarnhaodd parafeddygon fod teithiwr yn y car wedi marw yn y fan a’r lle.
Mae ei berthynas agosaf wedi cael gwybod ac yn cael cymorth gan swyddogion arbenigol.
Mae’r dyn sydd wedi ei arestio yn parhau yn y ddalfa.
Mae Heddlu Gwent yn gofyn i unrhyw un a allai fod wedi gweld y gwrthdrawiad, neu sydd gyda lluniau camera dashfwrdd, a oedd yn defnyddio Heol Staunton, rhwng 11.30 a 12:00 i gysylltu gyda nhw drwy ffonio ar 101 neu anfon neges ar Facebook neu Twitter, gan ddyfynnu cyfeirnod 2300385485.