Newyddion S4C

Cyn-chwaraewr rhyngwladol dan-21 Lloegr yn cael ei alw i garfan bêl-droed Cymru

13/11/2023
jay dasilva

Mae cyn chwaraewr rhyngwladol dan-21 Lloegr, Jay Dasilva, wedi’i ychwanegu at garfan Cymru ar gyfer y gemau tyngedfennol nesaf yn ymgyrch ragbrofol UEFA Euro 2024. 

Mae Dasilva, 25 oed, sydd yn chwarae i Coventry City, wedi cael ei alw i fyny gan Gymru am y tro cyntaf ar ôl cynrychioli Lloegr drwy gydol ei yrfa ieuenctid.

Cafodd Dasilva ei eni Luton, ond mae ei nain yn wreiddiol o Bontypridd sy’n ei wneud yn gymwys i chwarae i Gymru. Mae ei frawd, Cole, hefyd wedi cynrychioli tîm Dan 21 Cymru yn y gorffennol.

Cefnwr chwith yw Dasliva ac fe fydd yn opsiwn ychwanegol i Rob Page, gyda Ben Davies, Neco Williams a Niall Huggins, a gafodd eu henwi yn y garfan wreiddiol hefyd â'r gallu i chwarae yn y safle.

Mae angen i Gymru guro Armenia oddi cartref ar 18 Tachwedd, ac yna Twrci yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar 21 Tachwedd, er mwyn bod yn sicr o'u lle ym mhencampwriaeth UEFA Euro 2024  yn yr Almaen fis Mehefin 2024.  

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.