Newyddion S4C

Côr Meibion yn dathlu canmlwyddiant gydag ymarfer wyneb yn wyneb

ITV Cymru 11/06/2021

Côr Meibion yn dathlu canmlwyddiant gydag ymarfer wyneb yn wyneb

Mae un o gorau meibion Cymru yn dathlu canmlwyddiant o fodolaeth gydag ymarfer arbennig iawn.

Ers pymtheg mis, nid yw Côr Meibion Cwmbach wedi gallu cwrdd wyneb yn wyneb oherwydd cyfyngiadau Covid-19.

Ond, gyda’r rheolau’n llacio a’r côr yn cyrraedd carreg filltir bwysig, mae’r aelodau’n aduno i ganu yn Eglwys St Elvan, Aberdâr.

Sefydlwyd y côr union ganrif yn ôl yn ystod streiciau’r glowyr, pan ddaeth pum grŵp lleol at ei gilydd i berfformio.

Ers hynny, mae’r côr o Gwm Cynon wedi mynd o nerth i nerth.

Fel arfer, byddai’r aelodau, sy’n amrywio o 19 i 91 oed, yn perfformio mewn dros 25 o gyngherddau’r flwyddyn, gan gynnwys rhai tramor.

Image
ITV Cymru
Y llun cyntaf ar gofnod o'r côr yn 1922 [Llun: Côr Meibion Cwmbach]

Mae’r uchafbwyntiau’n cynnwys canu yn seremoni agoriadol Cwpan Rygbi’r Byd yn 1999 a gwneud i Amanda Holden grio ar Britain’s Got Talent.

Ond, oherwydd y pandemig, daeth yr holl deithio a pherfformio i ben.

Yn ôl y Cadeirydd, Brian Williams, mae’r digwyddiad yn benllanw misoedd o aros.

“Dyma’r tro cyntaf i nifer weld eu ffrindiau ers dros flwyddyn”, meddai.

“Rydym wedi bod yn cynnal ymarferion dros Zoom yn wythnosol, ac wedi bod yn cysylltu dros Whatsapp, er mwyn rhannu gwybodaeth a chadw ysbryd cymunedol y côr.”

Image
Y Côr yn 2012
Y côr yn 2021 (Llun: Côr Meibion Cwmbach

Byddant yn gorfod dilyn canllawiau diweddaraf Llywodraeth Cymru, drwy gadw at 30 o gantorion ar y tro tu mewn. Byddant yn cael tynnu mygydau i ganu tra’n ymbellhau’n gymdeithasol.

“Dyma fydd dechrau’r dathliadau canmlwyddiant, lle byddwn ni’n ceisio ail-drefnu’r holl ddigwyddiadau yr ydym wedi eu colli”, meddai Brian Williams.

“Dy’n ni’n methu aros!”

Prif lun: ITV Cymru

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.