Newyddion S4C

Aelod o Lywodraeth yr Alban yn cytuno i dalu bil iPad o £11,000

10/11/2023
Michael Matheson

Mae Ysgrifennydd Iechyd Llywodraeth yr Alban, Michael Matheson, wedi dweud y bydd yn ad-dalu’r gost yn llawn o bron i £11,000 mewn taliadau defnydd data wedi iddo ddefnyddio iPad seneddol tra'r oedd ar wyliau.

Roedd yr aelod o Senedd yr Alban o blaid yr SNP wedi bod dan bwysau gan mai dim ond £3,000 yr oedd wedi ei gyfrannu o’i lwfans ei hun, gyda’r gweddill yn cael ei dalu gan Senedd yr Alban.

Cododd ffi o £10,935.74 yn ystod ei ymweliad wythnos o hyd â Moroco dros gyfnod y Nadolig y llynedd.

Mae eisoes wedi dweud wrth newyddiadurwyr bod y bil sylweddol wedi digwydd ar ôl iddo ddefnyddio “cerdyn Sim hen ffasiwn mewn iPad oedd gen i at ddibenion fy etholaeth”.

Galwodd ei wrthwynebwyr gwleidyddol arno i dalu’r bil ei hun, ar ôl iddi ddod i’r amlwg bod Senedd yr Alban am gynnal adolygiad polisi a fydd yn ystyried a ddylai ASAau gael eu dal “yn bersonol atebol am gostau lle nad ydyn nhw wedi gweithredu’n gwbl unol â gofynion swyddfa Technoleg Gwybodaeth ”.

Mewn datganiad ddydd Gwener dywedodd Mr Matheson ei fod wedi penderfynu talu'r costau'n llawn.

Dywedodd: “Rwyf wedi cysylltu ag awdurdodau Senedd yr Alban y prynhawn yma i wneud trefniadau i ad-dalu cost lawn y £10,935.74 a godwyd mewn taliadau crwydro ar fy iPad seneddol.

“Er i’r Senedd gytuno i dalu’r rhan fwyaf o’r swm hwn fel cost gyfreithlon, gyda’r gweddill yn cael ei dalu o’m lwfans swyddfa, rwyf wedi myfyrio’n hir ac yn galed ac yn derbyn y dylai’r cerdyn Sim ar y ddyfais hon fod wedi cael ei ddisodli yn gynharach."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.