
Protest Palesteina: Heddlu'n gwrthdaro â phrotestwyr a gwrth-brotestwyr
Mae'r heddlu wedi gwrthdaro â phrotestwyr a gwrth-brotestwyr yn Llundain ddydd Sadwrn wrth i orymdaith fawr o blaid Palesteina gael ei chynnal ar Ddiwrnod y Cadoediad.
Dywedodd yr heddlu eu bod nhw wedi arestio 82 o wrth-brotestwyr yn Tachbrook Street, Pimlico am darfu ar yr heddwch.
Yn hwyrach fe gyhoeddwyd eu bod nhw hefyd yn atal grŵp o 150 o brotestwyr o blaid Palesteina yn Grosvenor Place am danio tân gwyllt a gwisgo mygydau.
Dechreuodd y trafferthion cyn 11.00 wrth i Heddlu'r Met ddweud fod swyddogion wedi wynebu “agwedd ymosodol” gan wrth-brotestwyr cyn y gwasanaeth yn y Senotaff yn Whitehall.
Roedd grwpiau adain dde eithafol gan gynnwys yr EDL yn eu mysg.
Tua 12.30 dechreuodd 300,000 o bobl orymdeithio o Park Lane ger Hyde Park yn galw am gadoediad yn Gaza.
Ymgyrch Undod Palesteina oedd wedi trefnu’r brif orymdaith.

Dywedodd y Prif Weinidog Rishi Sunak yn ddiweddarach ei fod yn condemnio gweithredoedd “treisgar, cwbl annerbyniol” gan grwpiau asgell dde eithafol a “chydymdeimlwyr Hamas” ar yr orymdaith o blaid Palestina.
Roedd Comisiynydd y Met Syr Mark Rowley wedi penderfynu peidio gwahardd yr orymdaith er gwaethaf gwrthwynebiadau Llywodraeth y DU.
Fe wnaeth y penderfyniad hwn arwain at yr Ysgrifennydd Cartref Suella Braverman yn cyhuddo'r heddlu o ddangos “safonau dwbl” gan ddewis “ffefrynnau” rhwng gwahanol brotestwyr.
Inline Tweet: https://twitter.com/metpoliceuk/status/1723420872403296605?s=20
'Cymhleth'
Bydd bron i ddwyaith cymaint o swyddogion ar ddyletswydd yn Llundain dros y penwythnos - 1,850 o swyddogion ddydd Sadwrn a 1,375 ddydd Sul.
Dywedodd Heddlu'r Met y byddai swyddogion o heddluoedd eraill y DU hefyd ar ddyletswydd.
Er bod camau diogelwch mawr yn digwydd yn flynyddol ar gyfer Penwythnos y Cofio, “mae eleni yn llawer mwy a mwy cymhleth nag o’r blaen,” meddai’r llu.
Dywedodd Heddlu’r Met: “Rydyn ni’n gwybod yr effaith y mae protestiadau parhaus, tensiynau cynyddol a throseddau casineb cynyddol yn eu cael ledled Llundain, a’r ofn a’r pryder y mae ein cymunedau Iddewig yn arbennig yn eu teimlo.
“Mae ganddyn nhw hawl i deimlo’n ddiogel yn eu dinas, gan wybod eu bod nhw’n gallu teithio ar draws Llundain heb deimlo ofn, braw neu aflonyddwch.”
Inline Tweet: https://twitter.com/RishiSunak/status/1723406007844380964?s=20
Gwasgaru
Bydd parth gwahardd yn cael ei sefydlu gan ddefnyddio rhwystrau metel yn Whitehall, Horse Guards Parade, Maes Cofio Abaty Westminster ac ardaloedd perthnasol eraill.
Y bwraid fydd i atal rhai ar yr orymdaith rhag ddod i mewn i'r lleoliadau hyn.
Bydd gan y Senotaff hefyd bresenoldeb heddlu 24 awr a fydd yn aros yn eu lle tan ddiwedd digwyddiadau'r Cofio, ddydd Sul.
Dywedodd y Met fod yn rhaid i’r orymdaith a’r holl areithiau ddod i ben erbyn 17:00.
Bydd parth gwasgaru yn ei le ar gyfer lleoliadau allweddol yng nghanol Llundain gan gynnwys Sgwâr Trafalgar a Piccadilly Circus hefyd.
Llun: PA