Yr Ŵyl Gerdd Dant yn dychwelyd i'r brifddinas wedi 42 o flynyddoedd
Yr Ŵyl Gerdd Dant yn dychwelyd i'r brifddinas wedi 42 o flynyddoedd
Mae'r Ŵyl Gerdd Dant yn dychwelyd i'r brifddinas eleni, a hynny am y tro cyntaf ers 42 o flynyddoedd.
Fe fydd yr ŵyl yn cael ei chynnal ar nos Sadwrn 11 Tachwedd yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro.
Nid cystadleuthau traddodiadol cerdd dant yn unig fydd i'w clywed eleni medd y trefnwyr.
Mae sawl adran wahanol ar gyfer y cystadleuthau gan gynnwys llefaru i gyfeiliant, canu Gwerin a dawnsio gwerin, a'r delyn.
Gyda disgwyl i rhwng 1200 a 1500 o bobl o bob oedran gystadlu, dywedodd Trefnydd yr Ŵyl, John Eifion, bod y traddodiad o ganu cerdd dant yn parhau'n un poblogaidd iawn"
“Rwy’n ffyddiog bod cerdd dant dal yn boblogaidd heddi. Rwy’n eitha ffyddiog ein bod ni’n mynd i gyfeiriad cywir y grefft," meddai.
Eleni fe fydd na fwy o bobl ifanc yn cymryd rhan yn yr ŵyl, meddai Mr Eifion:
“Mae’r ŵyl wedi denu nifer o bobl ifanc eleni. Mae 12 o ysgolion cynradd yn cystadlu felly fydd tua 100-150 o blant yn canu yn y partion.
“Rhai o’r ysgolion o’r ardal leol a sydd ddim wedi gwneud o’r blaen felly mae’n gret i weld eu bod nhw am gael blas o ddiwylliant Cymraeg,” ychwanegodd.
Dywedodd bod “lle pwysig” yn bodoli i’r grefft o ganu cerdd dant.
“Mae yna sawl agwedd o gerdd dant sy’n rhan o ni fel Cymry. Yn amlwg mae’r Delyn – ein hofferyn cenedlaethol.
“Ydy mae’n gallu bod yn ddisgyblaeth newydd i rhai gan fod rhaid cyfuno elfennau cerddorol a ieithyddol. Rhaid deall a dangos ystyr y geiriau mewn cerddi.
“Mae ‘na le pwysig iddo, a mae cydnabod cerdd dant yn beth braf,” meddai.
Yn wahanol i ganu traddodiadol, bydd y perfformiwr yn ymuno gyda’r gainc – darn o gerddoriaeth sy’n cael ei chwarae gan y Delyn. Ond bydd y perfformiwr yn canu alaw wahanol.
Rhaid i'r ddau, y perfformiwr a’r delyn, orffen gyda'i gilydd yr un pryd ar ddiwedd y perfformiad.
Cymorth i'r digartref
Mae'r ŵyl eleni wedi partneru gyda Chanolfan Huggard sydd yn cefnogi unigolion digartref sy’n cysgu ar strydoedd y brifddinas ac yn defnyddio eu gwasanaethau yng nghanol Caerdydd.
Mae’r Huggard wedi bod yn cefnogi unigolion sy’n byw ar y strydoedd neu sy’n ddigartref yng Nghaerdydd ers 35 o flynyddoedd.
Mae cais i bawb sy'n cystadlu ddod â brwsh dannedd newydd gyda nhw i’r ŵyl.
Ychwanegodd Mr Eifion: “Mae’r ŵyl eleni ar Safle Coleg Caerdydd a’r Fro sydd ar yr un stryd a chanolfan yr elusen Huggard.
"Bydd yr ŵyl yn gyfle i rhywun ddod a brws dannedd gyda nhw er mwyn cefnogi Huggard.
"Er bod sawl partner gyda’r ŵyl y gobaith yw trwy ddenu nifer fawr o bobl i’r coleg yfory, bydd modd estyn llaw.
"Mae’r elusen mor agos, felly roedd e’n beth naturiol i ni wneud.
“Ddim yr un dant yn amlwg, tant telyn sydd ganddo ni ond mae’n braf iawn medru cefnogi.
“Rydym yn gobeithio y bydd y gwasanaeth yn elwa o’r gystadleuaeth hefyd," meddai.