Clybiau yn cystadlu yn nhrydedd rownd Cwpan Cymru JD ddydd Sadwrn

Bydd clybiau o ail, trydedd a phedwaredd haenen pêl-droed Cymru yn herio rhai o fawrion y Cymru Premier JD yn nhrydedd rownd Cwpan Cymru JD ddydd Sadwrn.
Mae 10 o glybiau’r uwch gynghrair ymhlith y 32 olaf, ac ymysg y gweddill mae 15 clwb o’r ail haen, chwech o’r drydedd haen, a Maes Awyr Caerdydd yw’r unig glwb o’r bedwaredd haen sydd yn dal yn y gystadleuaeth.
Dyma gip ar rhai o'r gemau ddydd Sadwrn:
Dydd Sadwrn, 11 Tachwedd
Airbus UK (Haen 2) v Llansawel (Haen 2) | Dydd Sadwrn – 14:00
Ail Rownd: Airbus UK 4-0 Rhos Aelwyd, Aberfan 0-3 Llansawel
Bydd hi’n frwydr ddifyr ym maes awyr Brychdyn brynhawn Sadwrn rhwng y timau sy’n 2il yng Nghynghrair y Gogledd a Chynghrair y De.
Hon fydd y gêm gyntaf erioed rhwng y ddau dîm a lwyddodd i gyrraedd rownd yr wyth olaf y tymor diwethaf cyn colli yn erbyn Cei Connah a’r Bala.
Fe gyrhaeddodd Airbus y rownd derfynol yn 2015/16 pan oedd Andy Preece wrth y llyw, ond fe gollon nhw o 2-0 yn erbyn Y Seintiau Newydd ar y Cae Ras.
Mae Andy Dyer wedi cael ei benodi’n reolwr ar Llansawel, a bydd yn awyddus i dalu’r pwyth yn ôl i Airbus a enillodd o 7-0 yn erbyn Port Talbot yn rownd gynderfynol 2015/16 pan oedd Dyer yn rheoli’r Gŵyr Dur.
Gorffennodd Airbus yn 6ed yn yr uwch gynghrair yn 2015/16, ond ers hynny mae’r clwb wedi bod fel ‘yo-yo’ yn syrthio o’r brif haen deirgwaith ar ôl gorffen ar waelod y tabl yn 2017, 2020 a 2023.
Llynedd, fe orffennodd Llansawel yn 3ydd yng Nghynghrair y De am y trydydd tro’n olynol, a bydd Dyer yn gobeithio mynd a’r clwb gam ymhellach eleni gan anelu tuag at yr uwch gynghrair.
Fe gafodd y ddau dîm gêm gyfartal y penwythnos diwethaf (Airbus 1-1 Treffynnon, Caerfyrddin 2-2 Llansawel), ond mae’r ddau’n parhau’n hafal ar bwyntiau gyda’r clybiau sydd ar frig eu tablau, sef Treffynnon a Llanelli.
Hwlffordd (Haen 1) v Rhydaman (Haen 2) | Dydd Sadwrn – 14:00
Ail Rownd: Hwlffordd (cos)0-0 Dreigiau Baglan, Trefelin 2-2(cos) Rhydaman
Rownd Gyntaf: Rhydaman (cos)0-0 Ffynnon Taf
Bydd Rhydaman yn teithio i Sir Benfro gyda’r bwriad o achosi sioc yn erbyn Hwlffordd o’r haen uchaf.
Er bod Hwlffordd wedi cystadlu’n gyson yn yr uwch gynghrair dyw’r clwb heb fynd ymhellach na phedwaredd rownd Cwpan Cymru ers tymor 2012/13 pan gollodd yr Adar Gleision o 1-0 gartref yn erbyn Y Seintiau Newydd.
Daeth eu rhediad gorau’n y gystadleuaeth yn 2004/05 pan gyrhaeddon nhw’r rownd gynderfynol cyn colli 1-0 yn erbyn Caerfyrddin.
Daeth rhediad gorau Rhydaman yn 1999 wrth iddyn nhw gyrraedd rownd yr wyth olaf cyn colli mewn gêm ail-chwarae yn erbyn Conwy.
Mae Rhydaman wedi curo Ffynnon Taf a Threfelin ar giciau o’r smotyn i gyrraedd y drydedd rownd eleni, ac mae’r clwb hefyd wedi curo ar giciau o’r smotyn yn erbyn Trefelin yng Nghwpan Nathaniel MG.
Ond mae nhw’n wynebu meistr y ciciau o’r smotyn y tro hwn, sef golwr Hwlffordd Zac Jones sydd wedi helpu’r Adar Gleision i ennill ar giciau o’r smotyn yn ddiweddar yn y gemau ail gyfle (vs Met Caerdydd a’r Drenewydd), yn Ewrop (vs Shkendija), ac yn rownd ddiwethaf Cwpan Cymru yn erbyn Dreigiau Baglan.
Met Caerdydd (Haen 1) v Yr Wyddgrug (Haen 2) | Dydd Sadwrn – 14:00
Ail Rownd: Met Caerdydd 4-0 Cwmbrân, Nantlle Vale 2-2(cos) Yr Wyddgrug
Rownd Gyntaf: Yr Wyddgrug 13-1 Trefaldwyn
Mae Met Caerdydd yn mwynhau cyfnod cadarn ac wedi codi i’r 3ydd safle yn yr uwch gynghrair ar ôl ennill pump o’u chwe gêm ddiwethaf yn cynnwys buddugoliaeth arbennig yn erbyn Cei Connah ddydd Sadwrn diwethaf.
Ond bydd tîm Ryan Jenkins yn benderfynol o beidio a cholli yng Nghwpan Cymru yn erbyn clwb o’r haenau îs am y trydydd tymor yn olynol.
Yn 2021/22, collodd y myfyrwyr yn erbyn Bae Colwyn oedd yn yr ail haen ar y pryd, ac yna’r llynedd roedd Met ar yr ochr anghywir i’r sioc fwyaf y tymor pan gollon nhw o 2-1 yn erbyn Y Pîl o’r bedwaredd haen.
Cyn hynny roedd Met Caerdydd wedi cyrraedd y rownd gynderfynol ddwywaith yn olynol yn 2019 a 2020, ond ers ffurfio’r clwb presennol yn 2000, dyw’r myfyrwyr erioed wedi ennill y gwpan.
Mae’r Wyddgrug wedi cyrraedd y drydedd rownd am y trydydd tro mewn pedwar cynnig, ond ar ôl colli yn erbyn Llansawel llynedd a’r Seintiau Newydd yn 2019/20, bydd y clwb o Glwyd yn anelu i gyrraedd y bedwaredd rownd am y tro cyntaf erioed eleni.
Mae tîm Steve Monk yn mynd o nerth i nerth yng Nghynghrair y Gogledd ac yn eistedd yn 4ydd yn y tabl ar ôl ennill saith o’u wyth gêm ddiwethaf ym mhob cystadleuaeth.
Y Seintiau Newydd (Haen 1) v Adar Gleision Trethomas (Haen 3) | Dydd Sadwrn – 14:00
Ail Rownd: Rhuthun 0-5 Y Seintiau Newydd, Adar Gleision Trethomas 6-1 Penrhiwceiber
Rownd Gyntaf: Adar Gleision Trethomas 4-1 Rangers Trelai
Ers colli yn erbyn Cei Connah yn rownd gynderfynol Cwpan Cymru 2017/18, mae’r Seintiau Newydd wedi ennill 21 gêm yn olynol yn y gystadleuaeth gan godi’r gwpan deirgwaith yn olynol.
Yn ogystal ag ennill 21 gêm gwpan yn olynol, dyw’r Seintiau chwaith heb golli yn eu 21 gêm ddiwethaf ym mhob cystadleuaeth (ennill 19, cyfartal 2), rhediad sy’n ymestyn yn ôl i’r haf pan gollon nhw yn erbyn Swift Hesperange ar Awst y 1af.
Y tymor diwethaf fe enillodd y Seintiau o 6-0 yn rownd derfynol Cwpan Cymru yn erbyn Y Bala, sef y fuddugoliaeth fwyaf mewn ffeinal ers 1931.
Dyna oedd y 9fed tro i’r clwb o Groesoswallt gael eu henw ar y cwpan, a bellach dim ond Wrecsam (23), Caerdydd (22) ac Abertawe (10) sydd â record well yn y gystadleuaeth.
Fydd hi’n glamp o her i Adar Gleision Trethomas felly, sef un o’r clybiau isaf ar ôl yn y gystadleuaeth sy’n chwarae eu pêl-droed yn nhrydedd haen y pyramid yng Nghynghrair y De Ddwyrain.
Ond fel Y Seintiau, mae Trethomas yn mwynhau tymor rhagorol gyda’r clwb ar frig eu tabl wedi ennill pob un o’u naw gêm gynghrair hyd yma.
Bydd yr Adar Gleision yn breuddwydio am gael achosi sioc arall ar ôl iddyn nhw guro Hwlffordd o’r uwch gynghrair yn y drydedd rownd y tymor diwethaf, ond teg dweud bod hon am fod yn sialens anoddach i’r pentref ger Caerffili.
Hefyd yn chwarae dydd Sadwrn:
Aberystwyth v Y Bala
Bangor 1876 v Y Fflint
Caerau Trelai v Gresffordd
Caerfyrddin v Abertyleri
De Gŵyr v Cas-gwent
Llanuwchllyn v Bwcle
Mynydd y Fflint v Canton
Porthmadog v Maes Awyr Caerdydd
Y Barri v Cegidfa
Y Drenewydd v Bae Colwyn
Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio a bydd y gorau o gemau’r penwythnos i’w gweld ar S4C nos Lun am 9:35.