Newyddion S4C

Gŵyl goleuni: Beth yw Diwali a phwy sy’n ei dathlu?

12/11/2023

Gŵyl goleuni: Beth yw Diwali a phwy sy’n ei dathlu?

Mae'n gyfnod Diwali unwaith eto eleni, ond beth yw ystyr yr ŵyl a phwy sy'n ei dathlu?

Mae Diwali yn ŵyl sy'n dathlu buddugoliaeth goleuni dros dywyllwch a dechrau newydd i filiynau o bobl o'r ffydd Hindŵaidd, Sikhaidd a Jain. 

Mae'r ŵyl yn cymryd lle dros gyfnod o bum niwrnod ac mae’n tueddu i ddisgyn rhwng Hydref a Thachwedd, ond mae'r union ddyddiad yn amrywio bob blwyddyn. 

Mae gan bob diwrnod ystyr gwahanol ac, yn 2023, y prif ddyddiad dathlu yw dydd Sul 12 Tachwedd.

Mae’n fwyaf adnabyddus fel gŵyl y goleuadau, ystyr y gair Diwali yw "rhesi o lampau wedi'u goleuo".

Mae cartrefi a strydoedd yn tueddu i gael eu haddurno â lampau olew bach o'r enw diyas, gyda'r golau i fod i helpu Lakshmi, sef Duwies cyfoeth a ffawd dda i ffeindio’i ffordd i mewn i gartrefi pobl.

Pam bod pobl yn dathlu? 

​I rai o'r ffydd Hindŵiaid, mae'n nodi dechrau'r Flwyddyn Newydd, ac mae'n ymwneud â dychweliad duwiau Rama a Sita ar ôl 14 mlynedd o alltudiaeth.

Mae Sikhiaid yn adnabod yr ŵyl fel Bandi Chhor Divas, gan ddathlu rhyddhau’r chweched guru Hargobind Singh o’r carchar yn 1619.

Mae dathliadau’r ffydd Jainiaeth yn ymwneud â'r foment wnaeth sylfaenydd Jainiaeth, yr Arglwydd Mahavira, ei adnabod fel Moksha, neu wynfyd tragwyddol.

Dilyn traddodiadau

Yn draddodiadol mae pobl yn glanhau eu cartrefi, gwisgo dillad newydd a dweud gweddïau yn ystod y dathliadau. 

Mae creu dyluniadau traddodiadol wedi'u gwneud gan ddefnyddio powdr lliwgar i ddod â lwc dda a phositifrwydd i'w bywydau hefyd yn rhan o’r dathliadau. 

Bydd rhai yn cynnau tân gwyllt ar ddiwedd yr ŵyl, ond mae’r traddodiad yma yn un dadleuol, gyda rhai yn dweud bod tân gwyllt yn dychryn anifeiliaid a chynyddu llygredd aer. 

Yn flaenorol, mae'r llywodraeth ym mhrifddinas India, Delhi, wedi gosod gwaharddiad ar werthu a defnyddio rhai mathau o dân gwyllt oherwydd yr effaith ar ansawdd aer.

Lle mae’r dathliadau? 

Image
newyddion
Mark Drakeford, Vaughan Gething, Eluned Morgan, Conswl Anrhydeddus India Raj Aggarwal a Dirprwy Uchel Gomisiynydd Shri Sujit Ghosh yn nathliadau Hindŵaidd Gŵyl y Goleuadau yng Nghlwb Criced Morgannwg

Mae cymunedau ledled y byd yn cymryd rhan yn Diwali. Mae gan ddinas Caerlŷr, yn y DU, un o'r dathliadau mwyaf y tu allan i India. 

Ddydd Iau fe wnaeth Prif Weinidog Cymru,  Mark Drakeford ddatgelu menter newydd gyda’r nod o gryfhau’r cysylltiadau rhwng Cymru ac India.

Wrth siarad yn nathliadau Hindŵaidd Gŵyl y Goleuadau yng Nghlwb Criced Morgannwg, a drefnwyd gan lywodraeth India, dywedodd Mr Drakeford mai nod menter “Blwyddyn Cymru yn India 2024” yw dyfnhau cysylltiadau economaidd a diwylliannol rhwng y ddwy wlad. 

Mae’r lansiad i fod i gael ei gynnal yn India o gwmpas Dydd Gŵyl Dewi gyda digwyddiadau eraill ar y gweill mewn nifer o ddinasoedd gan gynnwys Delhi, Mumbai a Bengaluru.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.