Ail-frandio elusennau sy'n defnyddio enw Tywysog Cymru
Mae rhai elusennau oedd wedi eu henwi ar ôl y Tywysog Cymru wedi eu hail-frandio, cyhoeddwydd ddydd Gwener.
Fe fydd elusennau’r Ymddiriedolaeth y Tywysog, Sefydliad y Tywysog a Chronfa Elusennol Tywysog Cymru, a gafodd eu sefydlu gan Charles yn ystod ei gyfnod yn Dywysog Cymru, yn newid eu henwau.
Bydd yr elusennau nawr yn newid eu henwau i Ymddiriedolaeth y Brenin, Sefydliad y Brenin a Chronfa Elusennol Brenin Charles III, meddai Palas Buckingham.
Daw hyn 14 mis ers cychwyn teyrnasiad Charles ac wythnos cyn ei ben-blwydd yn 75 oed.
Yn y gorffennol, roedd Charles wedi datgan ei fod yn dymuno y byddai ei feibion, William, y Tywysog Cymru, a Harry, Dug Sussex, yn cymryd drosodd ei waith o gynnal Ymddiriedolaeth y Tywysog.
Ond mae William wedi dweud ei fod eisiau “mynd cam ymhellach” a thorri ei gwys ei hun ar bynciau digartrefedd ac iechyd meddwl, gan hefyd weithio ar y Wobr Earthshot, sydd yn ceisio mynd i’r afael â newid hinsawdd.
Dywedodd llefarydd ar ran Ymddiriedolaeth y Brenin: “Rydym yn falch o gyhoeddi y byddwn yn newid ein henw i Ymddiriedolaeth y Brenin.
“Mae esblygiad ein henw yn ein galluogi i gadw’n agos at ein sylfaenydd, Ei Fawrhydi’r Brenin, gan adlewyrchu ei ymroddiad parhaus i’n gwaith ers 1976.
“Wrth i ni weithio tuag at y newid hwn dros y misoedd nesaf, byddwn yn parhau i gefnogi pobl ifanc a chymunedau sy’n wynebu anfantais wrth gael mynediad at gyflogaeth, addysg a hyfforddiant, yn y DU a ledled y byd.”