Newyddion S4C

HSBC UK yn dod â’u gwasanaeth ffôn Cymraeg i ben

10/11/2023

HSBC UK yn dod â’u gwasanaeth ffôn Cymraeg i ben

HSBC, banc sydd meddan nhw yn ymroddedig i fywyd, diwylliant a phobl Cymru.

Ond mae'r ymroddiad yna dan gwestiwn heddiw ar ôl iddyn nhw gyhoeddi y bydd eu gwasanaeth ffôn iaith Gymraeg yn dod i ben ar y 15fed o Ionawr.

Siom i'w cwsmeriaid yng Nghaernarfon.

"Dw i'm yn licio hynny. Dw i isio siarad Cymraeg."

"'Dan ni'n byw yng Nghymru, tydan? Mae o i fod yn Gymraeg."

"Mae'n anodd cael gafael ar fanc sydd ar agor. Mae isio rhywun ar ochr arall y ffôn sy'n siarad Cymraeg."

Mewn llythyr uniaith Saesneg mae HSBC yn dweud eu bod wedi gweld gostyngiad cyson yn y defnydd o'r linell ffôn Gymraeg.

"Rydym yn derbyn 22 galwad i'r llinell bob dydd sy'n cymharu â 18,000 i'r llinellau iaith Saesneg" meddan nhw.

Mae'r llythyr yn cydnabod mai'r Gymraeg fyddai dewis cyntaf rhai cwsmeriaid yn dal i fod ac felly fe fydd modd trefnu galwad yn ôl yn y Gymraeg o fewn tri diwrnod gwaith.

Mae'r banc hefyd yn dweud, er nad dyma fyddai'r dewis cyntaf "bod modd i bob cwsmer fancio yn Saesneg."

Yn y Senedd y prynhawn 'ma, roedd 'na gwestiwn brys gan Blaid Cymru.

Dywedodd Gweinidog Y Gymraeg ac Addysg Jeremy Miles: "Mae hyn yn siomedig iawn. Mae cynyddu defnydd y Gymraeg wedi bod yn flaenoriaeth i fi 'r aelod o'r cychwyn cynta. 'Dan ni wedi bod mewn cysylltiad gyda swyddfa Comisiynydd y Gymraeg. Bydd y Comisiynydd yn ysgrifennu at HSBC heddi."

A chyhoeddiad y banc yn cael ei feirniadu gan aelodau o bob plaid.

Dywedodd Llefarydd y Gymraeg ar gyfer y Ceidwadwyr Cymreig Samuel Kurtz: "Mae cau banciau wedi gadael tyllau yn ein strydoedd mawr ac wedi cyflwyno heriau i gwsmeriaid yr henoed, y rhai yng nghefn gwlad Cymru ac yn awr i'r rhai sy'n dymuno defnyddio'r Gymraeg."

Mae HSBC eisoes wedi cau 12 cangen yng Nghymru eleni. Mae'r penderfyniad diweddaraf yma i gau y linell ffôn Gymraeg yn cael ei weld fel esiampl arall o fanciau yn gadael cymunedau Cymru i lawr.

Gobaith aelodau'r senedd yw y bydd pwysau gwleidyddol yn ddigon i newid eu meddyliau.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.