‘Gwallgo’: AS Llafur yn galw am ailystyried ‘rhannau’ o derfyn cyflymder 20mya Cymru
Mae AS Llafur y Rhondda Chris Bryant wedi galw am adolygiad o derfyn cyflymder 20mya Cymru gan ddweud bod ambell "ran" o’r newid wedi bod yn "wallgo".
Cafodd y terfyn newydd ei chyflwyno gan Lywodraeth Lafur Cymru ym mis Medi ar nifer o ffyrdd Cymru er mwyn gwneud y ffyrdd yn fwy diogel, medden nhw.
Wrth ymddangos ar raglen Question Time dywedodd Chris Bryant ei fod yn cefnogi gostwng y terfyn cyflymder i 20mya pan oedd yn addas gwneud hynny.
Dywedodd bod y terfyn cyflymder wedi ei ostwng y tu allan i leoliad Question Time yn Llandudno ar ôl ymgyrch gan bobl leol.
“Rydw i’n credu mewn datganoli,” meddai.
“Mae yna rai ardaloedd lle mae’n wallgo’. Da chi’n mynd o 20 i 30 ac yn ôl i 20.
“Mae Lee Waters y gweinidog eisoes wedi dweud bod y canllawiau yn mynd i gael eu hadolygu.
“Mae angen i awdurdodau lleol allu gwneud penderfyniadau call am y ffyrdd yn eu hardaloedd nhw.
“Mae pawb yn cytuno fod angen 20mya mewn rhai ardaloedd fel y tu allan i ysgolion neu fferyllydd.
“Rydw i’n AS y Rhondda ac mae hynny’n bron i bob ffordd yn y Rhondda ac mae’n gwneud pethau’n anodd i fysiau a gweithwyr gofal.”
‘Trafod’
Mae’r gweinidog sy'n gyfrifol am drafnidiaeth yng Nghymru, Lee Waters, eisoes wedi dweud fod yna fwy o le i awdurdodau lleol greu eithriadau i’r terfynau cyflymder 20mya.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd Lee Waters nad oedd y terfynau “yn addas” mewn rhai ardaloedd a bod rhagor o le i ystyried eithriadau.
Daw ei sylwadau o flaen un o bwyllgorau'r Senedd wedi i dros 460,000 o bobol arwyddo deiseb yn gwrthwynebu'r newid a ddaeth i rym fis diwethaf.
Dywedodd Lee Waters nad oedd am fod yn “ddogmatig” a bod y cyngor ar gyfer awdurdodau lleol yn “hyblyg”.
“Beth sydd angen newid ydi fod gan awdurdodau lleol dealltwriaeth fwy cyson ynglŷn â’r gallu sydd gyda nhw i ddadansoddi'r cyngor,” meddai.
“Rydan ni wedi bod yn trafod a oes angen pwysleisio i’r cynghorau bod angen defnyddio’r terfynau mewn ardaloedd lle mae pobl a cheir yn cymysgu.
“Dyw’r terfyn 20mya ddim yn addas lle nad yw pobl a thraffig yn cymysgu.”