Newyddion S4C

Amy Dowden yn derbyn ei thriniaeth cemotherapi olaf

09/11/2023
Amy Dowden

Mae seren Strictly Come Dancing, Amy Dowden, wedi cyhoeddi ei bod yn derbyn ei thriniaeth cemotherapi olaf. 

Fe wnaeth y ddawnswraig o Gaerffili postio ar ei chyfrif Instagram ei bod yn yr ysbyty yn derbyn ei wythfed rownd o gemotherapi i drin canser y fron. 

Dywedodd Ms Dowden: “Chemo rhif 8! Yr un olaf! 

“Prynhawn o chemo ac yna dwi mor lwcus a diolchgar i allu ganu’r gloch yna! 

“Fydda i byth yn ei gymryd yn ganiataol!”

Diolch i uned anhygoel Sheldon! Rydych chi i gyd yn anhygoel, i gyd yn arwyr y GIG”

Cafodd Ms Dowden ddiagnosis o ganser y fron cam 3 ar ôl iddi ddarganfod y lwmp cyntaf nôl ym mis Ebrill.

Ar ôl cael mastectomi, dywedwyd wrthi fod y tiwmorau wedi lledu a cafwyd hyd i  math arall o ganser.

Mae hi wedi bod yn rhannu lluniau o'r driniaeth ar y cyfryngau cymdeithasol i geisio codi ymwybyddiaeth. 

“Nid yw canser yn gwahaniaethu,” meddai  ar ei chyfri. 

Mae hi’n annog pobl i gadw golwg ar eu cyrff am unrhyw arwyddion anarferol.

Lluniau: Instagram @AmyDowden

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.