Newyddion S4C

Dyn o ardal Caernarfon wedi'i gyhuddo o geisio llofruddio

08/11/2023
Heddlu

Mae dyn 64 oed o ardal Caernarfon wedi’i gyhuddo o droseddau gan gynnwys ceisio llofruddio.

Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru bod Robert Pinnington, o bentref Y Fron, wedi cael ei gyhuddo o geisio llofruddio, bygwth lladd, ymosod a thagu bwriadol.

Dywedodd yr heddlu ei fod wedi ei gyhuddo yn "dilyn digwyddiad mewn eiddo" yn y pentref.

Ymddangosodd ger bron y llys heddiw yn dilyn y digwyddiad ar ddydd Mercher 1 Tachwedd.

Mae wedi cael ei remandio er mwyn ymddangos yn Llys y Goron Caernarfon ar 11 Rhagfyr.

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.