Beirniadu World Rugby am dynnu fideos cefnogwyr oddi ar gyfryngau cymdeithasol
Beirniadu World Rugby am dynnu fideos cefnogwyr oddi ar gyfryngau cymdeithasol
Mae World Rugby dan y lach wedi i gefnogwyr rygbi ddweud eu bod nhw’n rhy llawdrwm a hynny am dynnu fideos oddi ar y cyfryngau cymdeithasol.
Mae’r fideos sydd wedi eu tynnu yn cynnwys un gan y Cymro Robbie Owen, crëwr y sianel Squidge Rugby ar YouTube, sydd â dros 235,000 o danysgrifwyr.
Cafodd y fideo ei llwytho i YouTube, fwy nag wythnos gyfan ar ôl y rownd derfynol rhwng De Affrica a Seland Newydd yng Nghwpan Rygbi’r Byd 2023.
Bwriad fideo Mr Owen oedd adolygu'r ffeinal.
Fe wnaeth greu fideo debyg bedair blynedd yn ôl yn 2019 pan enillodd y Springboks Gwpan Rygbi’r Byd y flwyddyn honno.
Fe gafodd y fideo honno ei gwylio dros filiwn o weithiau.
Roedd ei adolygiad eleni wedi denu dros 100,000, o wylwyr cyn iddi gael ei thynnu i lawr fore Llun.
Dywedodd Cymro arall sydd wedi adeiladu dilyniant o dros 129,000 o ddilynwyr i’w fideos rygbi ar YouTube bod World Rugby yn “colli mas” wrth dynnu’r deunydd i lawr.
Mae cyfle gwirioneddol meddai i rygbi’r undeb ddenu rhagor o gefnogwyr drwy sianeli YouTube fel ei un o.
Mae World Rugby eu hunain wedi dweud eu bod nhw’n deall rhwystredigaeth cefnogwyr y gamp ond bod y sefyllfa yn un “gymhleth”.
Dywedodd y corff eu bod nhw’n gobeithio adolygu eu telerau darlledu erbyn y bencampwriaeth Cwpan y Byd nesaf i gymryd crewyr cynnwys ar-lein i ystyriaeth.
‘Mwy o bobl yn gwylio’
Mae gan Andrew Forde sianel YouTube hefyd sydd yn dadansoddi a chreu adolygiadau tebyg o gemau rygbi ar lefel rhyngwladol a rhanbarthol.
Yn ôl Andrew, mae cosbi crewyr digidol trwy dynnu eu deunydd i lawr yn digwydd yn fwyfwy aml ac yn “gam yn y cyfeiriad anghywir.”
Dylai crewyr fod yn rhydd i ail-ddefnyddio clipiau o’r gemau unwaith mae’r gystadleuaeth drosodd, meddai.
“Gyda World Rugby ma' nhw’n aml yn cymryd pethau lawr.
“Fel arfer ma’ pawb yn rhydd ar ôl Cwpan y Byd i ail-ddefnyddio deunydd.
“Felly sai’n siŵr pam ma na ddim trafodaeth yn mynd m'lan. Sai’n siŵr beth yw’r amcan.
“Odd e'n siawns da yn 2023 i gal fwy o bobl i wylio’r gêm.
“Os odd na ddigwyddiad enfawr wedi digwydd, neu sgil rili da, y ffaith bod dim siawns i bobl i weld e ar Twitter [X], Facebook neu Youtube, mae’n gam yn y cyfeiriad anghywir yn fy marn i.”
Inline Tweet: https://twitter.com/SquidgeRugby/status/1721483443899351452
Dywedodd Robbie Owen, crewr y sianel Squidge Rugby, ar gyfrwng cymdeithasol ‘X’: “Ar ôl dim ond ychydig oriau i fyny, mae'r fideo wedi cael ei thynnu i lawr â llaw gan un o weithwyr World Rugby, a streic hawlfraint wedi'i roi i'r sianel.
“Aeth ryw 60+ awr o waith i mewn i’r un fideo yna, felly byddwn yn gwneud ein gorau glas i’w adfer, ond nid yw hyn yn ein dwylo ni."
Yn ôl Andrew Forde, gallai tynnu deunydd i ffwrdd effeithio ar faint o ddiddordeb sydd gan bobl yn y gêm.
“Ma rygbi yn gêm gymhleth i rhywun sydd ddim yn gyfarwydd,” meddai.
“Yn enwedig yn Cwpan y Byd oedd gennych chi bobl o Portiwgal, Uruguay, Chile, ddim rili yn gwylio rygbi o’r blaen.
“Felly odd e’n siawns dda i ddenu mwy o bobl.”
Mae pryder gan eraill bod cyfyngiadau ar draws y cyfryngau cymdeithasol yn mynd i arwain at golli diddordeb ymysg y genhedlaeth iau.
Inline Tweet: https://twitter.com/GemHallett/status/1721543238215942375
Dywedodd Gemma Hallet ar ei chyfrif 'X' bod World Rugby'n colli'r gynulleidfa "fwyaf hanfodol ar gyfer dyfodol y gêm".
"Maent yn cyfrif am 26% enfawr o boblogaeth y byd," meddai.
"Mae #GenZ yn cael 26% o'u cynnwys trwy YouTube; y mwyaf o unrhyw lwyfan. "
'Problem'
Gyda newidiadau cyson ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd Andrew Forde bod angen cynnal trafodaethau i ddeall pa ddeunydd sydd yn ddiogel i'w ddefnyddio.
Ychwanegodd: “Ma 'na gymaint o bobl clyfar ar cyfryngau cymdeithasol sy’n gwled ambell beth mewn gemau rygbi byddai rhywun ar y teledu jyst ddim yn gweld.
“Ond os mae World Rugby yn cymryd y deunydd i lawr does dim siawns i bobl weld e.
“Ni’n colli mas lot. Ma bach yn siom os mae dal yn mynd y ffordd yma.
“Beth sydd wir yn drueni does dim trafodaeth – beth sy’n cal mynd ar lein?
“Ma fe mynd i fod bach o broblem yn y dyfodol.”