Ben Davies a Brennan Johnson yng ngharfan bêl-droed Cymru
Mae Ben Davies a Brennan Johnson wedi eu cynnwys yng ngharfan bêl-droed Cymru ar gyfer y gemau tyngedfennol nesaf yn ymgyrch ragbrofol EURO 2024.
Wedi'r fuddugoliaeth hollbwysig yn erbyn Croatia fis Hydref, cyhoeddodd hyfforddwr tîm pêl-droed Cymru Rob Page ei garfan ar gyfer y gemau yn erbyn Armenia a Thwrci.
Mae Brennan Johnson yn holliach ac yn dychwelyd o anaf ond ni fydd capten Cymru Aaron Ramsey yn rhan o'r ymgyrch gan olygu mai Ben Davies fydd yn parhau fel capten.
Roedd pryderon am Ben Davies wedi iddo anafu ei bigwrn yn ystod gêm rhwng ei dîm Totternham Hotspur a Crystal Palace yr wythnos ddiwethaf.
Yn sgil absenoldeb Aaron Ramsey oherwydd anaf, Davies oedd y capten yn y fuddugoliaeth yn erbyn un o fawrion pêl-droed rhyngwladol, Croatia yn Stadiwm Dinas Caerdydd fis Hydref.
Mae Joe Morrell hefyd yn dychwelyd i'r garfan ar ôl ei waharddiad, tra bod amddiffynnwr Sunderland Niall Huggins wedi ei enwi yn y garfan am y tro cyntaf.
Inline Tweet: https://twitter.com/Cymru/status/1722192242159534140?s=20
Mae angen i Gymru guro Armenia oddi cartref ar 18 Tachwedd, ac yna Twrci yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar 21 Tachwedd, er mwyn bod yn sicr o'u lle ym mhencampwriaeth Euro 2024 yn yr Almaen fis Mehefin 2024.
Y garfan: Wayne Hennessey, Danny Ward, Tom King, Ben Davies, Joe Rodon, Tom Lockyer, Chris Mepham, Ben Cabango, Neco Williams, Connor Roberts, Niall Huggins, Ethan Ampadu, Josh Sheehan, Jordan James, Joe Morrell, Harry Wilson, David Brooks, Dan James, Nathan Broadhead, Liam Cullen, Brennan Johnson, Kieffer Moore, Tom Bradshaw.
LLUN : ASIANTAETH HUW EVANS