Dileu cynllun rheilffordd digwyddiadau mawr
Dileu cynllun rheilffordd digwyddiadau mawr
Yn eu miloedd fe ddaethon nhw i weld Cymru'n curo'r Barbariaid ddydd Sadwrn. Sut oedd y daith mewn ar y trên?
Ni oedd ar y trên yn gyntaf, digon o le gyda ni. Pan gyrhaeddon ni Gaerdydd, oedd y trên yn llawn. Pobl ar eu traed, oedd dim digon o gabins ar y trên. Dim ond dau gabin oedd arno fe.
Oedd y trên cynta, doedd hwnna ddim ar amser. Nathon ni weitsiad deg munud. Fel arall, iawn. Oedd y trên yn llawn, roedd pobl yn sefyll. Ond gafon ni set.
Mae'r ffensys yma'n olygfa gyfarwydd pan mae gemau rhyngwladol yn y stadiwm. Maen nhw yma i arwain pobl tuag at y trenau cywir ond dyw'r broses ddim wastad wedi bod yn un hwylus.
Daw'r enwau mawr cerddorol i chwarae yn y Principality. Ond llynedd, pan wnaeth Ed Sheeran berfformio roedd 'na giwiau hir ar gyfer y trenau – ac ar yr M4.
Mae Rachel yn ffan rygbi – ac yn gwybod mor brysur mae gallu bod pan mae'n amser i ddal y trên nôl adre i'r Rhondda ar ôl gemau rhyngwladol.
Weithiau, 'sdim lle ar y platfform hyd yn oed. 'Sdim llefydd ar y trenau. Mae fel bod ar y tube yn Llundain. 'Sdim seddi ar gael, mae pawb yn sefyll. Mae'n gallu bod yn atmosphere neis, yn enwedig os yw Cymru'n ennill. Ond i fynd gartre heb sedd, yn enwedig i bobl gyda plant mae'n sefyllfa anodd. Mae angen gweithio'n galetach i roi fwy o drenau ymlaen yn hwyrach yn y nos yn enwedig pan mae digwyddiadau mawr yng Nghaerdydd.
Roedd 'na gynllun i leddfu'r pwysau, drwy gadw trenau ger y safle hwn yn Llanwern, Casnewydd a'u defnyddio i gludo'r torfeydd i ddigwyddiadau mawr.
Wedi adolygiad, fe benderfynodd y Llywodraeth nad oedd y cynllun yn gwerth am arian wedi'r cwbl.
Ond roedd hynny ar ôl i Drafnidiaeth Cymru wario £10.5m.
Dywed yr wrthblaid yn y Senedd bod yr arian yna, bellach, ar goll. Y neges bwysig o hyn i gyd yw bod hi'n bwysig bod chi'n glir yn y lle cynta be ydy amcanion y prosiect a bod ni ddim yn gwastraffu amser a pres yn trio datblygu pethau sydd ddim gwerth y pres.
Maen nhw'n bwrw 'mlaen ag adeiladu gorsafoedd newydd gan gynnwys yn Llanwern, ble fyddai'r lein gadw wedi cael ei gosod.
Mae'r Llywodraeth yn dweud hefyd y bydd trenau newydd yn helpu pobl cyrraedd digwyddiadau mawr.
Gyda rhagor o gemau a chyngherddau ar y gorwel mae'r ffans yn siŵr o ddod nôl ac yn gobeithio na fydd trafferth ar y trên yn sbwylo'r profiad.