Newyddion S4C

Gwrthod canolfan ceirw ger Wrecsam

07/11/2023
s4c

Mae cynlluniau ar gyfer fferm coed Nadolig a chanolfan i geirw ger ffin Wrecsam a Sir y Fflint wedi cael eu gwrthod o drwch blewyn.

Gwrthododd pwyllgor cynllunio Cyngor Wrecsam gynlluniau i newid y defnydd o dir pori ger Ffordd Llai yng Nghefn-y-bedd.

Ar hyn o bryd mae’r tir yn cael ei ddefnyddio fel fferm coed Nadolig a chanolfan hamdden awyr agored. 

Roedd y cynlluniau yn cynnig ‘canolfan ceirw’, cyfleusterau padl fyrddio a gweithgareddau cysylltiedig â dŵr, estyniad i’r llyn presennol ar y safle a chreu llwybrau cerdded. 

Fe wnaeth swyddogion cynllunio argymell i wrthod y cais oherwydd pryderon am lygredd i afonydd lleol yn sgil ffosffadau posibl. 

Dywedodd ymgynghorydd o Goodwin Planning Services, a oedd yn siarad ar ran yr ymgeisydd, ei fod yn argymhelliad “di-sail”.

Ychwanegodd fod tystiolaeth hefyd wedi'i darparu i swyddogion yn dangos bod 11 o geirw yn cynhyrchu yr un gwastraff ag un fuwch, gan bwysleisio fod mwy na 100 o wartheg yn arfer pori yno.

Dywedodd y Cynghorydd Dana Davies, o Riwabon y dylid gwrthod y cais, gan ychwanegu “rydyn ni yma i wneud gwaith ac mae’n rhaid i ni ystyried llygredd ffosffadau”.

Roedd cynghorydd Glyn Ceiriog Trevor Bates yn awyddus i ohirio’r penderfyniad gan ddweud: “Os na fyddwn ni’n ofalus bydd ein plant i gyd yn meddwl bod coed Nadolig yn dod o archfarchnadoedd nid o ffermydd.

“Rwy’n meddwl ein bod yn cael ein gweld yn ceisio atal busnesau rhag ffynnu yn y sir hon.”

Caofdd y cais i ohirio’r penderfyniad ei wrthod. 

Mewn pleidlais, roedd saith cynghorydd o blaid y cais, a saith yn erbyn y cynlluniau. 

Oherwydd hynny, cafodd y penderfyniad ei wneud ar sail pleidlais cadeirydd y pwyllgor.  

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.