Cerddwr wedi marw ar fynydd yng Ngwynedd mewn 'argyfwng meddygol'
07/11/2023
Bu farw cerddwr ar fynydd yng ngogledd Gwynedd ddydd Sul ar ôl dioddef “argyfwng meddygol.”
Bu farw ar fynydd Gyrn Ddu ger Llanaelhaearn, er gwaethaf ymdrechion y gwasanaethau brys, meddai Tîm Achub Mynydd Aberglaslyn.
Cafodd y tîm achub eu galw i'r argyfwng oddeutu 11.30 fore dydd Sul.
Roedd yr ambiwlans awyr a hofrennydd Gwylwyr y Glannau hefyd yn bresennol.
Mewn neges a gafodd ei rhannu ar eu cyfryngau cymdeithasol, dywedodd Tîm Achub Mynydd Aberglaslyn: “Er gwaethaf pob ymdrech, yn anffodus bu farw'r claf.
“Mae ein meddyliau gyda theulu a ffrindiau’r claf,” meddai llefarydd.