Newyddion S4C

Cymorth newydd i bobl sy'n cael trafferth talu'r morgais

07/11/2023
Chwilio am dy

Fe all rhai pobl yng Nghymru hawlio miloedd o bunnoedd tuag at eu morgeisi fel rhan o becyn cymorth newydd ar gyfer perchnogion tai. 

Bydd ceisiadau newydd ar gyfer cynllun Llywodraeth Cymru'n agor ddydd Llun, gyda’r nod o roi cymorth i bobl sy’n cael trafferth talu eu morgeisi yn sgil yr argyfwng costau byw. 

Mae'r cynllun ar gyfer cartrefi sydd gyda chyfanswm incwm o £67,000 a'r eiddo yn werth £300,000 neu lai.

Mae cyllid ar gyfer benthyciadau sy'n gyfanswm o £40 miliwn wedi’i drefnu ar gyfer y pecyn, a fydd ar gael eleni a’r flwyddyn sydd i ddod er mwyn darparu cymorth ariannol i'r rhai sydd ei angen. 

Fe fydd pobl sy’n derbyn benthyciad yn eu derbyn yn ddi-log am y pum mlynedd cyntaf, ac mi fydd Banc Datblygu Cymru yn rheoli'r cynllun. 

‘Heriau’

Gan gyhoeddi’r cynllun ddydd Mawrth, dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James: "Mae llawer o heriau i berchenogion tai yn yr hinsawdd economaidd bresennol sydd ohoni wrth iddyn nhw wynebu costau tanwydd uwch o lawer, chwyddiant uchel, a phrisiau uwch ym maes rhentu a thai. 

“Yn aml, 'dyw eu hincwm ddim yn codi i'r un graddau.

"Nod Cynllun Cymorth i Aros Cymru yw helpu perchenogion tai i barhau i fyw yn y cartrefi y mae ganddyn nhw gymaint o feddwl ohonyn nhw,” meddai. 

Bydd y cynllun yn cynnig opsiwn i berchnogion cartrefi sy'n ei chael yn anodd fforddio eu taliadau morgais drwy gynnig ad-dalu rhan o falans morgais sydd ganddynt eisoes, a hynny drwy roi benthyciad ecwiti cost isel sy'n cael ei ddiogelu drwy ail dâl - i'w dalu ar ôl talu benthycwr y tâl cyntaf, gan leihau'r ad-daliadau morgais i lefel y gall yr ymgeisydd ei fforddio.

Dywedodd Prif Weithredwr Shelter Cymru, Ruth Power: “Rydym wedi bod yn ymgyrchu am ragor o gymorth i berchnogion cartrefi sy’n ei chael hi’n anodd ad-dalu eu morgais, sy’n un o nifer o grwpiau sydd mewn perygl o fod yn ddigartref ac sy’n ceisio cymorth gan Shelter Cymru.

“Bydd y cynllun hwn yn cynnig cymorth i gartrefi cymwys yn fuan pan fydd ôl-ddyledion yn dechrau cronni, yn hytrach na gorfod aros hyd nes y maent yn wynebu straen difrifol adfeddu. 

“Rhaid inni nawr sicrhau fod cymaint o gartrefi â phosibl yn cael yr opsiwn i’w ddefnyddio er mwyn aros yn eu cartrefi, gan ddysgu gan bobl sydd mewn perygl o fod yn ddigartref beth yw’r ffordd orau y gall cynllun o’r fath eu cynorthwyo.”

Daw’r pecyn cymorth newydd fel rhan o gytundeb cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.